Coronafeirws (COVID-19)
Dylech hunanynysu a chael prawf os ydych chi neu unrhyw un yn eich cartref yn dangos symptomau.
Darllenwch y cyfyngiadau tra ein bod ni’n symud o lefel rhybudd 2 i lefel rhybudd 1.
Newidiadau diweddar a newidiadau i ddod
O ddydd Sadwrn 17 Gorffennaf
Cwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd 1:
- caiff hyd at chwech o bobl gwrdd o dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau
- caniateir cynnal digwyddiadau dan do wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 1,000 o bobl yn eistedd neu 200 o bobl yn sefyll, ar ôl cynnal asesiad risg a chadw at fesurau rhesymol
- caiff canolfannau sglefrio ailagor
- dileu’r cyfyngiadau cyfreithiol ar y nifer o bobl a gaiff ymgynnull yn yr awyr agored
- caniatáu i hyd at 30 o blant o sefydliadau, fel y Brownis a’r Sgowtiaid, i fynd i ganolfannau preswyl dros wyliau’r haf
O ddydd Sadwrn 7 Awst (os yw’r amodau’n caniatáu)
Cwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd 0:
- dileu’r cyfyngiadau cyfreithiol ar y nifer o bobl a gaiff gwrdd o dan do, gan gynnwys mewn cartrefi preifat, mannau cyhoeddus neu mewn digwyddiadau
- caiff pob busnes a phob safle agor, gan gynnwys clybiau nos
- dylai pobl barhau i weithio gartref os yw’n bosibl
- bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol o dan do, ac eithrio mewn lleoliadau lletygarwch
-
Lefelau rhybudd COVID-19
Y cyfyngiadau yn ystod ein cyfnod o symud allan o gyfyngiadau symud.
-
Amddiffyn eich hun ag eraill rhag y coronafeirws
Hunan-ynysu, cael cefnogaeth fel person eithriadol o fregus
-
Brechlyn
Gan gynnwys sut fydd y GIG yn brechu pobl yn nhrefn risg clinigol
-
Profi, olrhain, diogelu
Gwneud cais i gael prawf coronafeirws, olrhain cysylltiadau, canllawiau i gyflogwyr
-
Busnesau a chyflogwyr
Cymorth i helpu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws
-
Gwaith, sgiliau a chefnogaeth ariannol
Help gyda budd-daliadau, aros yn ddiogel yn y gwaith, a chael sgiliau newydd
-
Gwirfoddoli (trydydd sector)
Gwirfoddoli yn ystod pandemig y coronafeirws, cymorth i’r trydydd sector
-
Coronafeirws a’r gyfraith
Deddfwriaeth sy’n ymateb i phandemig y coronafeirws a chanllawiau esboniadol
-
Gwasanaethau cymunedol
Cynllunio, tân, cam-drin domestig a thrais rhywiol
-
Strategaeth a thystiolaeth
Cynnwys y wyddoniaeth, y data a'r dystiolaeth a ddefnyddir i wneud penderfyniadau
-
Addysg a gofal plant
Canllawiau ar coronafeirws i rieni, pawb sy'n gweithio mewn addysg a darparwyr gofal plant
-
Gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol
Canllawiau’r coronafeirws ar gyfer y GIG a phobl sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol, cymunedol a phreswyl
-
Tai
Canllawiau coronafeirws ar gyfer perchnogion tai, tenantiaid, landlordiaid, awdurdodau lleol a gwasanaethau tai a digartrefedd
-
Teithio
Cyngor teithio, teithio tramor a dychwelyd adref, canllawiau i weithredwyr
