Chwilio'r wefan
English

Help ar gyfer pobl ddigartref yn Abertawe'r Nadolig hwn

Mae mesurau'n cael eu rhoi ar waith i helpu pobl ddigartref ar draws Abertawe yn ystod cyfnod yr ŵyl.

EmergencyFoodFlyer

Mae Cyngor Abertawe'n gweithio'n galed gyda phartneriaid i sicrhau bod pawb yn derbyn bwyd, yn cael to uwch eu pennau ac yn cael cymorth mewn ffyrdd eraill.

Mae gwasanaeth darparu bwyd a chludfwyd Swansea Together yn bwriadu darparu bwyd i'r rheini mewn llety dros dro neu sy'n cysgu ar y stryd yn ystod wythnos y Nadolig.

Y nod yw sicrhau bod y rheini nad ydynt yn gallu casglu prydau o fwyd ar unrhyw ddiwrnod - gan gynnwys 25 Rhagfyr - yn derbyn dosbarthiad.

Rhwydwaith brys o grwpiau gwirfoddol, asiantaethau, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac adrannau'r cyngor yw Swansea Together sy'n darparu cefnogaeth reolaidd ar gyfer pobl sydd mewn perygl o golli'u cartrefi yn ein dinas, ac yn arbennig, y digartref.

Mae'n paratoi ac yn dosbarthu bwyd yn ddiogel, saith niwrnod yr wythnos. Mae elusen Matthew's House yn sbardun yn y rhwydwaith hwn, gyda'r cyngor yn bartner allweddol.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM