Yma dros y Nadolig - Llyfrgelloedd Abertawe
Mae llyfrgelloedd ar draws Abertawe'n bwriadu darparu cymaint o hwyl â phosib y Nadolig hwn.
Gyda thymor yr ŵyl hon yn wahanol i unrhyw un arall oherwydd COVID-19, mae staff y llyfrgell yn awyddus i helpu pobl ar draws y ddinas.
Mae ganddynt fesurau diogelwch cadarn ar waith ac maen nhw'n cynnig miloedd o lyfrau i'w benthyca. Manylion oriau agor: www.abertawe.gov.uk/llyfrgelloeddabertawe.
Mae ganddyn nhw hefyd amrywiaeth eang o eitemau - gan gynnwys e-Lyfrau ac e-Gylchgronau - y gellir eu mwynhau ar-lein.
Drwy gydol y mis hwn, bydd y gwasanaeth llyfrgelloedd yn postio cystadlaethau ac yn awgrymu deunyddiau darllen ar ei sianeli Facebook, Instagram a Twitter.
Byddant yn annog gweithgareddau i deuluoedd, yn cynnal gêm bingo llyfrau, yn cynnig taflenni lliwio i blant i'w lawrlwytho ac yn cynnal sesiynau adrodd straeon ar-lein.
