Mae amser a lle i bopeth!
Ydych chi eisiau clywed straeon rhyfeddol, darganfod pethau dramatig neu weld gerddi wrth yfed coffi? Mae Cadw’n cynnig dewis o leoedd cyffrous i’w harchwilio yn agos atoch chi.
Mae Cymru’n llawn hanes – mae’n amser mynd allan i archwilio Cymru o’r newydd!
Yn yr adran hon
Mae gennym rai o'r cestyll gorau yn y byd yng Nghymru, a rhai o'r harddaf hefyd. Mae gennym abatai, eglwysi a chapeli a rhai o'r henebion mwyaf hudolus y mae ymwelwyr wedi bod yn chwilio amdanynt ers miloedd o flynyddoedd. Mae gennym henebion sy'n ein hatgoffa o dreftadaeth falch Cymru fel un o wledydd diwydiannol cyntaf y byd a safleoedd sy'n adrodd straeon tywysogion canoloesol Cymru.
Dewiswch o raglen orlawn o fwy na 400 o ddigwyddiadau a diwrnodau allan ledled Cymru bob blwyddyn, gan gynnwys arddangosfeydd, gweithgareddau, teithiau, sgyrsiau, hanes byw a pherfformiadau byw.
Ni fu darganfod hanes Cymru erioed yn gymaint o hwyl!
Mae Cymru’n llawn dop o hanes — ble fyddwch chi’n mynd ar eich antur Gymreig?
Mae’r safleoedd ysblennydd sydd gennym yn ein gofal yn ddelfrydol ar gyfer ffilmio masnachol a ffotograffiaeth, digwyddiadau a phriodasau.
Syniadau ar gyfer...
Hefyd o ddiddordeb
Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £1.50 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol
Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw
- 10% oddi ar siopau Cadw
- 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
- Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
- Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
- Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn