Ysbrydoli angerdd o’n gorffennol
Y diweddaraf am ailagor
Gydag arweiniad gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi ailagor llawer o'n 130 o safleoedd treftadaeth ledled Cymru. Mae archebu tocynnau ar gyfer ein safleoedd hanesyddol â staff sydd wedi'u hailagor yn hanfodol, darllenwch ein canllawiau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad yn ddiogel ac o fewn y mesurau cloi cyfredol.
O ddydd Llun 9 Tachwedd, ni ellir gwerthu tocynnau i unrhyw un sy’n byw y tu allan i Gymru, nac i grwpiau o fwy na 4 person dros 10 oed oni bai eu bod yn byw yn yr un tŷ; efallai y bydd gofyn i chi ddangos tystiolaeth o le’r ydych yn byw.
- darllenwch ein canllawiau diweddaraf ar sut i archebu tocynnau ac ymweld â ni'n ddiogel
- edrychwch ar dudalennau ein safleoedd unigol am fanylion amseroedd agor a chyfleusterau
Mae ein safleoedd heb staff yn rhad ac am ddim i ymweld â nhw ac nid oes angen archebu tocyn ymlaen llaw — edrychwch ar ein rhestr o safleoedd agored a heb staff i gynllunio eich ymweliad:
Diweddariad sector yr Amgylchedd Hanesyddol
Yn ystod y cyfnod anodd hwn, bydd Cadw yn parhau i ddarparu ein gwasanaethau a'n cymorth i amgylchedd hanesyddol Cymru hyd eithaf ein gallu. Byddwn yn cydweithio'n agos â sefydliadau'r sector treftadaeth ledled Cymru hefyd i sicrhau ein bod ni i gyd yn cynnig cymorth ar gyfer unrhyw ymholiadau a allai fod gennych neu faterion ymarferol y mae angen mynd i'r afael â nhw. Defnyddiwch y dolenni canlynol i gael manylion am ymateb Cadw, y cymorth ariannol sydd ar gael i'r sector a chyngor a gwybodaeth ddefnyddiol arall.
Lleoliadau poblogaidd
Gweld holl leoliadau poblogaidd CadwSyniadau ar gyfer...
Ein straeon
Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £1.50 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol
Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw
- 10% oddi ar siopau Cadw
- 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
- Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
- Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
- Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn