Chwilio'r wefan
English

Mae'n benwythnos - ond mewn ffordd go wahanol!

Mae nosweithiau mas ar nos Wener a nos Sadwrn yn dychwelyd i Abertawe y penwythnos hwn - ond byddan nhw'n wahanol iawn i sut rydych chi'n eu cofio.

Dechreuwyd ailagor caffis, bwytai a bariau, gyda gwasanaethau cyfyngedig, ddydd Llun (sylwer: 13 Gorffennaf) diolch i benderfyniad Llywodraeth Cymru i lacio'r cyfyngiadau symud.

Fodd bynnag, mae gwahaniaethau mawr rhwng y cyfnod cyn y cyfyngiadau symud a'r presennol ac mae'r gwahaniaethau hynny'n berthnasol y penwythnos hwn. Mae'r gwahaniaethau hynny'n cynnwys:

·         Nifer bach o leoliadau lletygarwch yn unig sydd ar agor yn Abertawe a'r cyffiniau.

·         Caniateir bwyta ac yfed y tu allan yn unig, mewn caffis ar balmentydd neu ar dir sy'n rhan o'r busnes.

·         Rhaid dilyn y rheol cadw pellter cymdeithasol o 2m i helpu i atal ymlediad Coronafeirws.

·         Mae eiddo'n cymryd manylion cyswllt cwsmeriaid i helpu gyda'r broses 'Profi, Olrhain, Diogelu' Llywodraeth Cymru.

·         Gofynnir i gwsmeriaid gynllunio ymlaen llaw - gan gynnwys cynllunio unrhyw drefniadau teithio.

Anogir cwsmeriaid i fod yn gyfrifol yng nghanol y ddinas a mannau eraill, archebu byrddau ymlaen llaw os cynigir y gwasanaeth hwn, parchu eraill gan gynnwys staff, yfed yn gyfrifol a pheidio â dod ynghyd mewn grwpiau.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM