Wind Street yn fwy addas i gerddwyr o ddydd Llun
Bydd prawf yn dechrau ddydd Llun i weld sut bydd Abertawe'n elwa o gael gwared ar bron yr holl draffig ar Wind Street (sylwer: 3 Awst).
Caniateir i gerbydau fod yno bob dydd rhwng 7am ac 11am yn unig - ac at ddibenion llwytho'n unig.
Bydd y ffordd yn parhau'n unffordd i gyfeiriad Victoria Road, a gellir cael mynediad iddi o gyffordd Caer Street a Castle Street.
Ni fydd modurwyr nad ydynt yn llwytho yn gallu defnyddio Wind Street yn ystod y cyfnod prawf 6 mis. Dylent ddefnyddio Caer Street a Princess Way yn lle. Mae meysydd parcio gerllaw'n cynnwys cyfleuster y cyngor yn The Strand, a maes parcio aml-lawr City Gates yr NCP.
Caniateir mynediad i gerbydau gwasanaethau brys.
Bydd rheolau'r prawf - sy'n dilyn ymgynghoriad â busnesau a phreswylwyr - yn golygu y bydd busnesau'r stryd yn dal i dderbyn dosbarthiadau dyddiol. Bydd gan gaffis a bariau fwy o gyfle i fasnachu y tu fas yn ystod y dydd a chyda'r nos.
Ar hyn o bryd, mae Wind Street ar agor i draffig dwyffordd o bob math 24/7. Cyn y cyfyngiadau symud roedd y ffordd ar gau bob nos Fercher, nos Wener a nos Sadwrn - ac ar gyfer rhai achlysuron dethol eraill megis gemau chwaraeon mawr.
