Cysylltwch â’r Tîm Digidol Corfforaethol i drafod defnyddio’r math hwn o gynnwys.
Defnyddiwch i:
- roi trosolwg o waith sefydliad, eu gyfrifoldebau a’i flaenoriaethau
ar gyfer:
- cyrff cynghori
- adrannau anweinidogol
- is-gwmnïau
Peidiwch â’i ddefnyddio ar gyfer:
- adrannau anweinidogol ac asiantaethau gweithredol gyda swyddogaethau arolygu
- Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (Gweithrediaeth)
- Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (Tribiwnlys)
- Is-gwmnïau Llywodraeth Cymru sy’n cyflenwi gwasanaethau i fusnesau
- arolygiaethau, hyd yn oed os ydynt yn rhan o Lywodraeth Cymru
Bydd y cynnwys yn dod gan y sefydliad ac yn sôn am y sefydliad, er enghraifft:
- cofnodion ac adroddiadau a gyhoeddwyd gan y sefydliad
- llythyr cylch gorchwyl y sefydliad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru
Golyga hyn y dylai’r testun crynodeb ar yr hafan sôn am y sefydliad ‘yn y trydydd person’, er enghraifft:
- cywir: Mae Grŵp Llywio Iechyd Coed Cymru yn rhoi cyngor ar blâu a chlefydau sy’n effeithio ar goed
- anghywir: Rydym yn rhoi cyngor ar blâu a chlefydau sy’n effeithio ar goed
