Pontydd ac Adeileddau Priffordd
Gwybodaeth am bontydd a strwythurau'r briffordd, gan gynnwys sut i adrodd am ddifrod.
Mae Dinas a Sir Abertawe'n gyfrifol am archwilio a chynnal a chadw dros 200 o bontydd priffordd, cylfatiau, tanffyrdd, a waliau cynnal.
O fewn y sir mae hefyd strwythurau priffordd sy'n eiddo i sefydliadau eraill megis Network Rail, Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain a pherchnogion preifat unigol.
Mae'r holl bontydd argefnffyrdd de Cymru yn cael eu rheoli gan Asiant Cefnffyrdd De CymruYn agor mewn ffenest newydd.
Mae angen i ni
- Sicrhau diogelwch strwythurau'r briffordd
- Rheoli llwybr a symudiad cerbydau â llwythi anarferol yn y sir
- Cymeradwyo strwythurau'r briffordd a gynigir gan ddatblygwyr
- Dylunio strwythurau a darparu cyngor strwythurol i adrannau eraill y cyngor.
Adrodd am ddifrod i bontydd a strwythurau eraill
Dylech adrodd am unrhyw ddifrod y gwelwch ar bontydd a chylfatiau etc. gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod. Nodwch leoliad y broblem, eich enw a'ch manylion cyswllt.
Cwestiynau cyffredin am bontydd
Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am gynnal a chadw pontydd.
