Mae Archif We y DG yn ymdrechu i gasglu a diogelu cynifer o wefannau’r DG ag sydd yn bosibl er mwyn dogfennu ein hetifeddiaeth genedlaethol ar-lein ar gyfer y cenedlaethau a ddaw. Gwnawn hyn drwy ‘gywain y We’ yn awtomatig sydd yn dod o hyd i wefannau y gallwn eu hadnabod fel rhai sydd wedi’u cyhoeddi yn y DG, er enghraifft rhai ag enwau parth lefel uchel fel .uk, .cymru a .scot a rhai y gallwn adnabod â llygad fel rhai a gyhoeddir yn y DG.
Gorchwyl anferthol yw hwn ac wrth reswm mae nifer fawr o wefannau yn cael eu colli yn unig am nad ydym yn gwybod amdanynt.
Byddem yn falch iawn o glywed am wefannau’r DG y credwch chi y dylem fod yn eu harchifo. Efallai eich bod yn golygu gwefan neu yn berchen ar un nad ydym yn ei chasglu’n barod? Mae pob math o wefannau yn cael eu harchifo gennym, rhai swyddogol, rhai personol a hyd yn oed rhai chwareus mwy ffwrdd â hi. Da chi, anfonwch y manylion atom ar y ffurflen fer isod.
Diolch yn fawr oddi wrth Tîm Archif We y DG.