Trosolwg

Cyn i chi dalu’ch bil TAW, gwnewch yn siŵr nad yw’ch dyddiad cau wedi mynd heibio. Caiff eich dyddiad cau ei ddangos ar eich Ffurflen TAW.

Mae dyddiadau cau gwahanol os ydych yn defnyddio:

Talu nawr

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae ffordd wahanol o dalu bil Gwasanaeth Un Cam ar gyfer TAW (GUC TAW).

Dulliau o dalu

Sicrhewch y bydd eich taliad yn cyrraedd cyfrif banc Cyllid a Thollau EM (CThEM) erbyn y dyddiad cau. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu gordal os na thalwch mewn pryd.

Gallwch gyfrifo’r dyddiad cau ar gyfer talu TAW, a faint o amser i’w ganiatáu, drwy ddefnyddio’r gyfrifiannell benodol hon.

Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf

3 diwrnod gwaith

Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ŵyl banc, mae’n rhaid i’ch taliad gyrraedd cyfrif banc CThEM erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy Daliadau Cyflymach).