Dirprwyon: gwneud penderfyniadau dros rywun sydd heb allu
Trosolwg
Gallwch wneud cais i fod yn ddirprwy i rywun sy’n ‘ddiffygiol o alluedd meddyliol’. Mae hyn yn golygu na allant wneud penderfyniad drostynt eu hunain ar yr adeg y mae angen ei wneud. Efallai y byddant yn dal i allu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain ar adegau penodol.
Efallai nad oes gan bobl alluedd meddyliol oherwydd, er enghraifft:
- maen nhw wedi cael anaf neu salwch ymennydd difrifol
- mae ganddyn nhw ddementia
- mae ganddyn nhw anableddau dysgu difrifol
Fel dirprwy, cewch eich awdurdodi gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar eu rhan.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mathau o ddirprwy
Mae 2 fath o ddirprwy.
Dirprwy eiddo a materion ariannol
Byddwch chi’n gwneud pethau fel talu biliau’r person neu drefnu eu pensiwn.
Dirprwy lles personol
Byddwch yn gwneud penderfyniadau am driniaeth feddygol a sut mae rhywun yn derbyn gofal.
Ni allwch fod yn ddirprwy lles personol i rywun os ydynt yn iau na 16 oed. Mynnwch gyngor cyfreithiol os ydych chi’n credu bod angen i’r llys wneud penderfyniad am eu gofal.
Fel rheol dim ond yn y sefyllfaoedd canlynol y bydd y llys yn penodi dirprwy lles personol:
- mae amheuaeth a fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud er budd gorau rhywun, er enghraifft oherwydd bod y teulu’n anghytuno ynghylch gofal
- mae angen penodi rhywun i wneud penderfyniadau am fater penodol dros amser, er enghraifft lle bydd rhywun yn byw
Darllenwch y canllawiau llawn ynghylch pryd mae angen i chi wneud cais lles personol.
Bod yn ddirprwy
Gallwch wneud cais i fod yn ddim ond un math o ddirprwy neu’r ddau. Os cewch eich penodi, cewch orchymyn llys yn dweud yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud.
Pan ddewch yn ddirprwy, rhaid i chi anfon adroddiad blynyddol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) bob blwyddyn yn esbonio’r penderfyniadau rydych wedi’u gwneud.
Sut i Ymgeisio
Gwiriwch eich bod yn diwallu’r gofynion i fod yn ddirprwy.
Anfonwch y ffurflenni cais i’r Llys Gwarchod a thalwch y ffi ymgeisio.
Nid oes angen i chi fod yn ddirprwy os ydych chi’n gofalu am fuddion rhywun yn unig. Gwnewch gais i fod yn benodai yn lle.
Gwiriadau ar eich cais
Bydd y Llys Gwarchod yn gwirio:
- a oes angen dirprwy ar y person neu rhyw fath arall o help
- nid oes unrhyw wrthwynebiadau i’ch apwyntiad
Os cewch eich penodi, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eich helpu i gyflawni eich cyfrifoldebau.
Byddwch yn parhau i fod yn ddirprwy nes bydd eich gorchymyn llys yn cael ei newid, ei ganslo neu’n dod i ben.
Ffyrdd eraill o wneud penderfyniadau i rywun
Os ydych chi am wneud un penderfyniad pwysig, gallwch wneud cais i’r Llys Gwarchod am orchymyn unwaith ac am byth.
Os oes gan yr unigolyn bŵer atwrneiaeth arhosol (ACLl) neu bŵer atwrneiaeth barhaus (EPA), nid oes angen dirprwy arno fel rheol. Gwiriwch a oes ganddynt ACLl neu EPA cyn gwneud cais.