Talu Cytundeb Setliad TWE
Trosolwg
Mae’n rhaid i chi dalu’r dreth ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B sy’n ddyledus o’ch Cytundeb Setliad TWE (PSA) erbyn 22 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y mae’n berthnasol iddi.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)
Talu ar-lein
Sicrhewch eich bod yn talu Cyllid a Thollau EM (CThEM) erbyn y dyddiad cau. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosbau a llog os yw’ch taliad yn hwyr.
Gallwch dalu ar-lein drwy:
- cymeradwyo gan ddefnyddio’ch cyfrif banc
- Debyd Uniongyrchol (taliad unigol)
- trosglwyddiad banc
- cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Dulliau eraill o dalu
Gallwch ddewis talu drwy ddulliau eraill. Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.
Ni allwch dalu yn Swyddfa’r Post mwyach.
Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
- cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein
- bancio ar-lein neu dros y ffôn (Taliadau Cyflymach)
- drwy CHAPS
3 diwrnod gwaith neu fwy
- drwy Bacs
- Debyd Uniongyrchol (os ydych wedi trefnu un gyda CThEM yn flaenorol)
- drwy gerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein
- yn eich banc neu gymdeithas adeiladu
- siec drwy’r post
5 diwrnod gwaith
- Debyd Uniongyrchol – os nad ydych wedi trefnu un gyda CThEM yn flaenorol
Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEM erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy ddefnyddio Taliadau Cyflymach).