Cofrestrwch eich cerbyd fel un oddi ar y ffordd (HOS)
Dywedwch wrth DVLA eich bod yn cymryd eich cerbyd oddi ar y ffordd, er enghraifft os ydych yn ei gadw mewn garej. Mae hwn yn cael ei alw weithiau yn ‘Hysbysiad oddi-ar-y-ffordd Statudol’ (HOS).
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Byddwch yn cael ad-daliad am unrhyw fisoedd llawn o dreth sy’n weddill. Ni allwch chi ddefnyddio’r cerbyd ar y ffordd nes eich bod yn ei drethu eto.
Nid oes angen i chi wneud HOS am gerbyd rydych wedi’i werthu eisoes. Dywedwch wrth DVLA eich bod wedi gwerthu cerbyd yn hytrach.
Os ydych chi’n talu’r dreth cerbydau nwyddau trwm (HGV), darllenwch y cyfarwyddyd am atal y dreth cyn i chi wneud SORN.
Dewiswch pryd y bydd yn dechrau
Ar unwaith
Defnyddiwch y rhif 11 digid ar lyfr log eich cerbyd (V5CW) i gymryd eich cerbyd oddi ar y ffordd ar unwaith.
Ar ddiwrnod cyntaf y mis nesaf
Defnyddiwch y rhif 16 digid ar eich llythyr atgoffa treth cerbyd (V11W) i gymryd y cerbyd oddi ar y ffordd o ddiwrnod cyntaf y mis nesaf. Gallwch ddefnyddio’r rhif hwn un waith yn unig.
Gwneud cais ar-lein
Os nad yw’r cerbyd wedi’i gofrestru yn eich enw bydd rhaid i chi ddweud wrth DVLA ei fod oddi ar y ffordd trwy’r post.
Cyn i chi ddechrau
Os yw eich cyfeiriad yn anghywir ar eich llyfr log (V5CW)
Newidiwch eich cyfeiriad ar-lein, wedyn cofrestrwch eich cerbyd oddi ar y ffordd.
Gallwch hefyd ddiweddaru’ch cyfeiriad trwy’r post. Ysgrifennwch eich cyfeiriad newydd yn:
- adran 3 os oes gennych lyfr log steil newydd (â blociau amryliw wedi’u rhifo ar y clawr blaen)
- adran 6 os oes gennych lyfr log steil hŷn
Anfonwch ffurflen V890W wedi’i chwblhau â’ch llyfr log i DVLA.
Os nad yw’r cerbyd wedi’i gofrestru yn eich enw
Cwblhewch y rhan briodol o’r llyfr log a’i anfon â ffurflen V890W wedi’i chwblhau.
Os nad oes gennych lyfr log
Cwblhewch ac anfonwch gais am lyfr log (V62W) a ffurflen V890W i DVLA - mae llyfr log newydd yn costio £25.
Gallwch gael copi dyblyg llyfr log (V5CW) os yw eich un gwreiddiol ar goll, wedi’i ddwyn, wedi’i ddifrodi neu wedi’i ddinistrio.
Ffyrdd eraill i wneud cais
Trwy ffonio
Gwasanaeth cerbydau DVLA
Ffôn: 0300 123 4321
Gwasanaeth 24-awr
Dysgwch am gostau galwadau
Trwy’r post
Anfonwch ffurflen gais (V890W) i DVLA.
Bydd angen cynnwys y diwrnod rydych am gymryd y cerbyd oddi ar y ffordd. Gall fod yn unrhyw ddiwrnod naill ai:
- y mis hwn
- y mis nesaf neu’r mis wedyn – bydd angen cynnwys llythyr yn dweud pam nad ydych yn gallu anfon y ffurflen yn agosach at yr amser
DVLA
Abertawe
SA99 1BF