Gwiriwch a allwch gael ysgariad

Gallwch gael ysgariad yng Nghymru neu Loegr os yw’r canlynol i gyd yn wir:

  • rydych wedi bod yn briod am dros flwyddyn
  • mae eich perthynas wedi chwalu’n llwyr
  • mae eich priodas wedi’i chydnabod yn gyfreithiol yn y DU (yn cynnwys priodas rhwng dau unigolyn o’r un rhyw)
  • y DU yw eich cartref parhaol, neu gartref parhaol eich gŵr neu’ch gwraig

Mae’r broses yn wahanol os ydych eisiau dod â phartneriaeth sifil i ben.

Os nad ydych eisiau cael ysgariad, gallwch gael ymwahaniad cyfreithiol fel y gallwch fyw ar wahân heb ddiweddu’r briodas. Efallai byddwch hefyd yn gallu dirymu’r briodas. Gallwch wneud cais am ymwahaniad neu ddirymiad yn ystod blwyddyn gyntaf eich priodas.

Mae cael ysgariad yn wahanol yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Rhesymau dros ysgaru

Pan fyddwch yn gwneud cais am ysgariad, bydd angen ichi brofi bod eich priodas wedi chwalu ac nid oes modd ei hadfer. Bydd rhaid i chi nodi un neu fwy o’r rhesymau canlynol (a elwir hefyd yn ‘ffeithiau’).

Godineb

Mae eich gŵr neu’ch gwraig wedi cael rhyw gyda rhywun sydd o’r rhyw arall (wedi cyflawni godineb).

Ni allwch roi godineb fel rheswm os bu ichi fyw gyda’ch gilydd fel cwpl am fwy na 6 mis ar ôl ichi gael gwybod amdano.

Ymddygiad afresymol

Mae eich gŵr neu’ch gwraig wedi ymddwyn yn y fath ffordd fel nad yw’n rhesymol disgwyl ichi fyw gydag ef/gyda hi.

Gall hyn gynnwys:

  • ymddygiad treisgar
  • cam-drin geiriol, fel sarhadau neu fygythiadau
  • bod yn feddw neu gymryd cyffuriau
  • gwrthod cyfrannu tuag at gostau byw a rennir

Gadael

Mae eich gŵr neu’ch gwraig wedi eich gadael ers o leiaf 2 flynedd cyn ichi wneud cais am ysgariad.

Gallwch dal ddefnyddio gadael fel rheswm os ydych wedi byw gyda’ch gilydd am gyfanswm o 6 mis yn ystod y cyfnod hwn, ond ni fydd hynny’n cael ei gyfrif tuag at y cyfnod o 2 flynedd.

Rydych wedi gwahanu ers o leiaf 2 flynedd

Gallwch wneud cais am ysgariad os ydych wedi gwahanu ers o leiaf dwy flynedd cyn ichi wneud cais am ysgariad ac mae’r ddau ohonoch yn cytuno i wneud hynny.

Rhaid i’ch gŵr neu’ch gwraig ddatgan ei fod/ei bod yn cytuno yn ysgrifenedig.

Gall fod yn bosibl ichi ddangos eich bod wedi gwahanu er eich bod yn byw yn yr un cartref a’ch gwraig neu’ch gŵr, cyn belled nad ydych yn byw gyda’ch gilydd fel cwpl (er enghraifft, rydych yn cysgu ac yn bwyta ar wahân).

Rydych wedi gwahanu ers o leiaf 5 mlynedd

Gallwch wneud cais am ysgariad os ydych wedi gwahanu ers o leiaf 5 mlynedd cyn ichi wneud cais, hyd yn oed os nad yw eich gŵr neu’ch gwraig yn cytuno.