Dylech gymryd prawf llif unffordd os nad oes symptomau gyda chi a'ch bod dros 11 oed.
Cynnwys
Trosolwg
Os ydych chi dros 11 oed, dylech gymryd Profion Llif Unffordd (LFT) yn rheolaidd a rhoi gwybod am y canlyniadau. Mae profion LFT ar gael i bawb am ddim.
Ar gyfer pobl heb symptomau COVID-19 y mae profion llif unffordd. Os oes gennych chi symptomau COVID-19, mae angen i chi gael prawf PCR (ar gov.uk).
Yn ogystal â phrofi’n rheolaidd, dylech hefyd gymryd prawf LFT:
- os ydych yn mynd i fod mewn sefyllfa risg uwch, gan gynnwys treulio amser mewn mannau prysur neu dan do
- cyn i chi ymweld â phobl sydd â risg uwch o salwch difrifol o COVID-19
- os ydych yn teithio i rannau eraill o Gymru neu’r DU
- os ydych wedi’ch adnabod fel cyswllt agos i rywun sydd wedi cael prawf positif.
Sut i gael profion llif unffordd
fallwch gael profion llif unffordd drwy:
- ffonio 119
- gasglu o fferyllfa neu fan casglu lleol
- archebu arlein (GOV.UK). Gallwch archebu 1 pecyn o 7 prawf i'w ddanfon atoch o fewn 1 i 2 ddiwrnod
Profi mewn ysgolion, colegau a meithrinfeydd
- Yn ystod y tymor byddwch yn cael profion LFT drwy eich ysgol, coleg neu feithrinfa (ar gyfer staff).
- Fe'ch cynghorir i wneud prawf dair gwaith yr wythnos a rhoi gwybod am y canlyniadau.
- Nid oes angen i blant oed cynradd ac iau wneud profion rheolaidd.
Profi gweithwyr a phrofi mewn prifysgolion
- Mae rhai cyflogwyr a phrifysgolion yn cynnig profion llif unffordd. Gofynnwch i’ch cyflogwr neu eich prifysgol a yw’n darparu profion LFT.
Rhoi gwybod am eich canlyniadau llif unffordd
Ar ôl i chi wneud eich prawf llif unffordd, mae angen i chi roi gwybod am y canlyniadau.
Mae angen i chi roi gwybod am yr holl ganlyniadau o fewn 24 awr, boed yn bositif, yn negatif neu'n amhendant. Adroddwch eich canlyniadau ar gov.uk neu drwy ffonio 119.
Mae hyn yn helpu ein dealltwriaeth o gyfraddau COVID 19 cyfredol. Mae'n golygu bod brigiadau newydd yn cael eu nodi. Mae hefyd yn ein helpu i ddeall sut mae profion yn cael eu defnyddio.
Beth i'w wneud os cewch chi ganlyniad positif prawf llif unffordd
Hunanynyswch ar unwaith os cewch ganlyniad prawf llif unffordd positif a dilynwch y canllawiau hunanynysu.
