Codau treth
Printable version
1. Gwirio a yw’ch cod treth yn gywir
Mae’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn yn defnyddio’ch cod treth i gyfrifo faint o Dreth Incwm i’w chymryd o’ch cyflog neu’ch pensiwn.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Bydd Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn rhoi gwybod iddynt pa god i’w ddefnyddio i gasglu’r dreth gywir.
Gallwch wirio’ch Treth Incwm ar-lein i weld:
- beth yw’ch cod treth
- a yw’ch cod treth wedi newid
- sut y caiff eich cod treth ei gyfrifo
- faint o dreth rydych yn debygol o’i thalu
Gallwch hefyd roi gwybod i CThEM am newid sy’n effeithio ar eich cod treth.
Beth mae’ch cod treth yn ei olygu
Fel arfer, bydd eich cod treth yn dechrau gyda rhif ac yn gorffen gyda llythyren.
1257L yw’r cod treth a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer y rhan fwyaf o bobl sydd ag un swydd neu bensiwn.
Sut y caiff y rhifau eu cyfrifo
Mae’r rhifau yn eich cod treth yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn faint o incwm rhydd o dreth rydych yn ei gael yn ystod y flwyddyn dreth honno.
-
Mae CThEM yn cyfrifo’ch Lwfans Personol sy’n rhydd o dreth.
-
Cyfrifir cyfanswm incwm nad ydych wedi talu treth arno (megis llog heb ei drethu neu enillion rhan amser) a gwerth unrhyw fuddiannau o’ch swydd (megis car cwmni).
-
Caiff yr incwm nad ydych wedi talu treth arno ei ddidynnu o’ch Lwfans Personol. Yr hyn sy’n weddill yw’r incwm rhydd o dreth a ganiateir i chi yn ystod blwyddyn dreth.
-
Caiff y digid olaf yn swm yr incwm rhydd o dreth ei ddileu.
Beth mae’r llythrennau yn eu golygu
Mae’r llythrennau yn eich cod treth yn cyfeirio at eich sefyllfa a sut y mae’n effeithio ar eich Lwfans Personol.
| Llythrennau | Beth maent yn eu golygu |
|---|---|
| L | Mae gennych hawl i’r Lwfans Personol rhydd o dreth safonol |
| M | Lwfans Priodasol: rydych wedi cael trosglwyddiad o 10% o Lwfans Personol eich partner |
| N | Lwfans Priodasol: rydych wedi trosglwyddo 10% o’ch Lwfans Personol i’ch partner |
| T | Mae’ch cod treth yn cynnwys cyfrifiadau eraill i gyfrifo’ch Lwfans Personol |
| 0T | Defnyddiwyd eich Lwfans Personol i gyd, neu rydych wedi dechrau swydd newydd ac nid oes gan eich cyflogwr y manylion sydd eu hangen arno i roi cod treth i chi |
| BR | Caiff eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ei drethu ar y gyfradd sylfaenol (a ddefnyddir fel rheol os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| D0 | Caiff eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ei drethu ar y gyfradd uwch (a ddefnyddir fel rheol os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| D1 | Caiff eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ei drethu ar y gyfradd ychwanegol (a ddefnyddir fel rheol os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| NT | Nid ydych yn talu unrhyw dreth ar yr incwm hwn |
| S | Caiff eich incwm neu’ch pensiwn ei drethu gan ddefnyddio’r cyfraddau yn yr Alban |
| S0T | Defnyddiwyd eich Lwfans Personol i gyd, neu rydych wedi dechrau swydd newydd ac nid oes gan eich cyflogwr y manylion sydd eu hangen arno i roi cod treth i chi |
| SBR | Caiff eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ei drethu ar y gyfradd sylfaenol yn yr Alban (a ddefnyddir fel rheol os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| SD0 | Caiff eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ei drethu ar y gyfradd ganolradd yn yr Alban (a ddefnyddir fel rheol os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| SD1 | Caiff eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ei drethu ar y gyfradd uwch yn yr Alban (a ddefnyddir fel rheol os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| SD2 | Caiff eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ei drethu ar y gyfradd uchaf yn yr Alban (a ddefnyddir fel rheol os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| C | Caiff eich incwm neu’ch pensiwn ei drethu gan ddefnyddio’r cyfraddau yng Nghymru |
| C0T | Defnyddiwyd eich Lwfans Personol i gyd, neu rydych wedi dechrau swydd newydd ac nid oes gan eich cyflogwr y manylion sydd eu hangen arno i roi cod treth i chi |
| CBR | Caiff eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ei drethu ar y gyfradd sylfaenol yng Nghymru (a ddefnyddir fel rheol os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| CD0 | Caiff eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ei drethu ar y gyfradd uwch yng Nghymru (a ddefnyddir fel rheol os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
| CD1 | Caiff eich holl incwm o’r swydd hon neu’r pensiwn hwn ei drethu ar y gyfradd ychwanegol yng Nghymru (a ddefnyddir fel rheol os oes gennych fwy nag un swydd neu bensiwn) |
Os oes ‘W1’ neu ‘M1’ neu ‘X’ ar ddiwedd eich cod treth
Codau treth dros dro yw’r rhain.
Os oes ‘K’ ar ddechrau eich cod treth
Mae codau treth sydd â ‘K’ ar y dechrau yn golygu bod gennych incwm nad yw’n cael ei drethu mewn modd arall a bod yr incwm hwnnw’n werth mwy na’ch lwfans rhydd o dreth.
Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, mae hyn yn digwydd os ydych yn:
- talu treth sydd arnoch o flwyddyn flaenorol drwy’ch cyflog neu’ch pensiwn
- cael buddiannau y mae’n rhaid i chi dalu treth arnynt – gallai’r rhain fod yn fudd-daliadau’r Wladwriaeth neu’n fuddiannau cwmni
Mae’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn yn cymryd y dreth sy’n ddyledus ar yr incwm nad yw wedi’i drethu o’ch cyflog neu’ch pensiwn – hyd yn oed os oes sefydliad arall yn talu’r incwm heb ei drethu i chi.
Ni all cyflogwyr na darparwyr pensiwn gymryd mwy na hanner eich cyflog neu bensiwn cyn treth wrth ddefnyddio cod treth K.
2. Codau treth dros dro
Os oes gennych god treth dros dro, bydd eich slip cyflog yn dangos:
- 1257 W1
- 1257 M1
- 1257 X
Mae’r rhain yn golygu y byddwch yn talu treth ar eich holl incwm sydd uwchben y Lwfans Personol safonol.
Mae’n bosibl y rhoddir cod treth dros dro i chi os ydych wedi dechrau:
- swydd newydd
- gweithio i gyflogwr ar ôl bod yn hunangyflogedig
- cael buddiannau cwmni neu Bensiwn y Wladwriaeth
Gall eich cyflogwr eich helpu i ddiweddaru’ch cod treth.
3. Diweddaru eich cod treth
Mae’n bosibl y rhoddir cod treth dros dro i chi os byddwch yn newid swydd. Bydd Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn ei gywiro’n awtomatig ar ôl i chi roi manylion eich incwm neu’ch pensiwn blaenorol i’ch cyflogwr.
Bydd eich cyflogwr yn cael y manylion hyn o’ch P45 – os nad oes un gennych, dylai’ch cyflogwr ofyn i chi am ragor o wybodaeth.
Bydd CThEM hefyd yn diweddaru’ch cod treth pan fydd y canlynol yn berthnasol:
- rydych wedi dechrau cael incwm o swydd neu bensiwn ychwanegol
- mae’ch cyflogwr yn rhoi gwybod i CThEM eich bod wedi dechrau neu stopio cael buddiannau o’ch swydd
- rydych yn cael budd-daliadau’r Wladwriaeth sy’n drethadwy
- rydych yn hawlio Lwfans Priodasol neu dreuliau rydych yn cael rhyddhad treth arnynt
Os ydych yn talu gormod neu rhy ychydig o dreth dros y flwyddyn dreth, bydd CThEM yn anfon P800 neu Gyfrifiad Treth Asesiad Syml atoch. Bydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut i gael ad-daliad neu dalu’r dreth sydd arnoch.
Ar ôl i’ch cod treth newid
Bydd CThEM yn ysgrifennu atoch neu’n anfon e-bost pan fydd eich cod treth wedi’i ddiweddaru.
Bydd hefyd yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn fod eich cod treth wedi newid. Dylai’ch slip cyflog nesaf ddangos:
- eich cod treth newydd
- addasiadau i’ch cyflog os oeddech yn talu’r swm anghywir o dreth
Rhoi gwybod i CThEM am newid sy’n effeithio ar eich cod treth
Os ydych yn credu bod eich cod treth yn anghywir, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Gwirio’ch Treth Incwm ar-lein i roi gwybod i CThEM am newid yn eich amgylchiadau.
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch gysylltu â CThEM.
Os ydych yn cysylltu â CThEM ar ran rhywun arall
Os oes angen i chi roi gwybod i CThEM am newid yn amgylchiadau rhywun arall (er enghraifft, gan eich bod yn gyfrifydd iddo), llenwch ffurflen ymholi am Hysbysiad Cod TWE.