Hawlio Budd-dal Plant
Sut mae’n gweithio
Cewch Fudd-dal Plant os ydych yn gyfrifol am fagu plentyn sydd:
- o dan 16 oed
- o dan 20 os yw’n parhau ag addysg neu hyfforddiant cymeradwy
Dim ond un person all gael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn.
Caiff ei dalu bob 4 wythnos a does dim terfyn ar nifer y plant y gallwch hawlio ar eu cyfer.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Drwy hawlio Budd-dal Plant:
- gallwch gael credydau Yswiriant Gwladol sy’n cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth
- bydd eich plentyn yn cael rhif Yswiriant Gwladol yn awtomatig pan fydd yn 16 oed
Gallwch ddewis peidio â chael taliadau Budd-dal Plant, ond dylech lenwi’r ffurflen hawlio Budd-dal Plant o hyd a’i chyflwyno.
Os ydych chi neu’ch partner yn ennill dros £50,000
Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu ychydig o’ch Budd-dal Plant mewn treth os yw’ch incwm unigol chi (neu’ch partner) dros £50,000.
Os yw’ch amgylchiadau’n newid
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau i’r Swyddfa Budd-dal Plant.