Talu’ch bil treth Asesiad Syml

Mae’n rhaid i chi dalu’ch bil treth Asesiad Syml os ydych wedi cael llythyr oddi wrth Gyllid a Thollau EM (CThEM).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Ffordd o dalu Treth Incwm nad oedd modd ei didynnu’n awtomatig o’ch incwm yw Asesiad Syml. Gall hon fod yn dreth sydd arnoch o flwyddyn dreth flaenorol neu ar eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:

  • gwneud taliad llawn neu randaliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein neu drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol (ni allwch ddefnyddio cerdyn credyd personol)
  • gweld taliadau rydych eisoes wedi eu gwneud
  • cael gwybod faint sydd ar ôl gennych i’w dalu
  • gwirio’ch dyddiad cau ar gyfer talu
  • gweld unrhyw newidiadau i’ch cyfrifiad Asesiad Syml
  • cysylltu â CThEM os oes gennych broblem gyda’ch bil

Dim ond os oes arnoch arian o un o’r blynyddoedd treth canlynol, neu’r ddwy ohonynt, y gallwch dalu ar-lein:

  • 6 Ebrill 2020 i 5 Ebrill 2021
  • 6 Ebrill 2021 i 5 Ebrill 2022

Os oes arnoch dreth o gyfnod cyn 6 Ebrill 2020, ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ac mae’n rhaid i chi ddefnyddio un o’r dulliau eraill o dalu yn lle hynny.

Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.

Does dim ffi os ydych yn talu â cherdyn debyd personol neu drwy’ch cyfrif banc ar-lein.

Os ydych o’r farn bod unrhyw wybodaeth yn y llythyr yn anghywir, neu os na allwch dalu’ch bil mewn pryd, mae’n rhaid i chi gysylltu â CThEM cyn pen 60 diwrnod.

Dechrau nawr

Dulliau eraill o dalu

Os ydych yn gwybod y swm y mae angen i chi ei dalu neu os nad ydych eisiau mewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein CThEM, gallwch dalu drwy’r dulliau canlynol:

  • eich cyfrif banc ar-lein
  • bancio ar-lein neu dros y ffôn
  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein
  • siec

Bydd angen eich Cyfeirnod y Tâl arnoch pan fyddwch yn talu. Bydd hwn i’w weld ar eich llythyr Asesiad Syml.

Cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch dalu’ch bil Asesiad Syml yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.

Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad Asesiad Syml. Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Wedyn, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol er mwyn cymeradwyo’ch taliad Asesiad Syml.

Fel arfer bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at ddwy awr i ymddangos yn eich cyfrif.

Bydd angen i chi gael eich manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Talu drwy wasanaeth bancio ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch dalu drwy ddefnyddio gwasanaethau bancio ar-lein neu dros y ffôn, Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs.

Fel arfer, mae’n cymryd hyd at 3 diwrnod gwaith i’ch taliad ddod i law CThEM. Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud eich taliad.

Cod didoli Rhif y cyfrif Enw’r cyfrif
08 32 10 12001020 HMRC Shipley

Os ydych yn talu o gyfrif tramor

Defnyddiwch Rif Cyfrif Banc Rhyngwladol CThEM (IBAN):

Cod Adnabod Banc (BIC) Rhif y cyfrif (IBAN) Enw’r cyfrif
BARCGB22 GB03BARC20114783977692 HMRC Shipley

Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Gallwch dalu’ch bil Asesiad Syml ar-lein â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol.

Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad Asesiad Syml. Dewiswch yr opsiwn ‘cerdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd’.

Bydd CThEM yn derbyn eich taliad â cherdyn ar y dyddiad y gwnewch y taliad, nid y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif banc – gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.

Does dim ffi yn cael ei chodi os ydych yn talu â cherdyn debyd personol.

Talu â siec

Gallwch dalu â siec drwy’r post. Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EM yn unig’ a’i hanfon i:

HMRC
Direct
BX5 5BD

Ysgrifennwch eich Cyfeirnod y Tâl ar gefn y siec – bydd hwn i’w weld ar eich llythyr Asesiad Syml.

Fel arfer, mae’n cymryd hyd at 3 diwrnod gwaith i’ch taliad ddod i law CThEM.