Bydd y bont newydd a’r waliau cynnal yng Nghefn Coed yn cadw’r cysylltiad rhwng gogledd a de Cefn Coed tra’n caniatáu i ni ledu’r A465.
Beth ydyn ni'n ei wneud
- adeiladu ffordd dros dro
- symud cyfleustodau
- adeiladu pont newydd yn High Street
- adeiladu pont droed newydd
- lledu traphont Taf Fechan
- adeiladu waliau cynnal
Byddwn yn codi wal 688tr (210m) o hyd ar hyd yr A470 wrth fynwent Cefn Coed.
Byddwn yn adeiladu pont newydd yn lle pont High Street er mwyn inni allu lledu’r ffordd newydd i’r gogledd a’r de.
Byddwn yn cryfhau ac yn lledu traphont Taf Fechan i gario ffordd newydd yr A465.
Byddwn yn adeiladu ffordd tua’r dwyrain o draphont Taf Fechan am ryw hanner milltir (0.8km). Caiff y ffordd ei hadeiladu mewn cyfres o drychiadau hyd at 52tr (16m) o ddyfnder ac argloddiau hyd at 44tr (13.5m) o uchder.
Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen
Rydym wedi:
- clirio llystyfiant yn barod i'r gwaith ddechrau
- symud llwybrau troed a chreu traciau mynediad
- gwneud gwaith archwilio’r tir i lywio dyluniad y strwythurau newydd
Y camau nesaf
- Haf 2021: byddwn yn adeiladu ffordd dros dro (gweler y llinellau oren ar y map) i gysylltu Vaynor Road ag Upper High Street, a Station Road (i gysylltu High Street â Maes y Garreg). Byddwn yn adeiladu cylchfannau dros dro ar yr A465 i gymryd lle’r cyffyrdd presennol â Grawen Lane a Lower Vaynor Road.
- Haf 2021: byddwn yn adeiladu ffordd barhaol newydd (gweler y llinell goch ar y map) i gysylltu Maes y Garreg â Job’s Lane.
- Haf 2021 i hydref 2023: byddwn yn adeiladu'r draphont newydd i gario'r ffordd ymuno ac ymadael a'r brif ffordd dros Daf Fawr.
- Haf i hydref 2021: byddwn yn symud cyfleustodau yn Grawen Lane i'n galluogi i adeiladu'r ffordd newydd.
I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.
