Is-bwnc
Lefel rhybudd 2
Newidiadau diweddar a newidiadau i ddod
O 6 Ionawr ymlaen
- Os cewch chi brawf llif llorweddol positif, ni fydd angen i'r mwyafrif o bobl gymryd prawf PCR i gadarnhau'r canlyniad. Mae'n rhaid i chi hunanynysu'n syth os cewch ganlyniad positif i brawf llif llorweddol.
O 31 Rhagfyr ymlaen
- os ydych wedi cael prawf COVID-19 positif, gallwch orffen hunanynysu ar ôl 7 diwrnod llawn
O 26 Rhagfyr ymlaen
- gall hyd at 50 o bobl tu allan a 30 dan do fynd i ddigwyddiadau chwaraeon cymunedol
- bydd yn ofynnol cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr ym mhob swyddfa a safle cyhoeddus
- bydd chwech o bobl ar y mwyaf yn cael cyfarfod mewn safle cyhoeddus
- bydd angen i safleoedd trwyddedig gymryd mesurau rhesymol ychwanegol i ddiogelu cwsmeriaid a staff
- bydd 30 o bobl ar y mwyaf yn cael bod yn bresennol mewn digwyddiadau dan do a 50 o bobl ar y mwyaf mewn digwyddiadau awyr agored
- bydd pobl yn gorfod cymryd prawf llif unffordd cyn mynd i dderbyniadau priodas neu bartneriaeth sifil neu i de angladd
- bydd clybiau nos yn cau
