Ychydig wythnosau nôl prynodd y Llyfrgell argraffiad cyntaf o “Ta’rikh al-rusul wa’l-maluk” gan Muhammad ibn-Jarir al-Tabari, un o lyfrau hanesyddol mwyaf nodedig y byd Arabaidd clasurol yn ôl yr Encyclopedia Iranica. Y prif reswm dros brynu’r llyfr oedd bod tudalen gyflwyno i’r Arglwyddes Charlotte Guest oddi wrth yr “Oriental Translation Fund” wedi ei atodi ar dudalen flaen y llyfr. Dengys hyn y parch a’r edmygedd oedd iddi yng nghylchoedd ysgolheictod ieithoedd y Dwyrain.
Tudalen deitl "Chronique D'Abou-Djafar Mohammed Tabari, fils de Djarir, fils d'Yezid
Priododd yr Arglwyddes Charlotte Guest â Josiah John Guest, aelod seneddol Merthyr Tydfil a Meistr Gwaith haearn Dowlais. Roedd y gwaith haearn yn llewyrchus iawn a thyfodd mewn maint i gyflogi saith mil o bobl – y gwaith haearn mwyaf yn y byd. Dangosodd yr Arglwyddes Charlotte ddiddordeb mawr yn y gwaith a’r modd roedd y busnes yn cael ei weinyddu o ddydd i ddydd. Cyhoeddodd bamffled yn egluro manylion technegol y defnydd o ffrwydrad poeth. Teithiodd gyda’i gŵr i bob cwr o Brydain ac Ewrop gyda’r busnes gan gyfrannu i gyfarfodydd gyda gwyddonwyr fel Charles Babbage. ‘Roedd ganddi ei hystafell ei hun yn swyddfa’r cwmni yn Llundain. Ar ôl dyddiau ei gŵr, hi fu’n gyfrifol am y gwaith.
Ar ôl dysgu Cymraeg Canol ac astudio hanes Cymru yn y Canol Oesoedd o dan y Parchedigion Evan Jenkin, Thomas Price (Carnhuanawc) a John Jones (“Tegid Jones”) daeth yr Arglwyddes Charlotte yn enwog am gopïo a chyfieithu unarddeg o lyfrau o Lyfr Coch Hergest. Roedd y rhain yn cynnwys pedair cainc y Mabinogi, tair chwedl ramantaidd o gyfnod y Brenin Arthur a phedair stori arall. Cyfieithodd waith y bardd Taliesin o lawysgrif Cymraeg Canol. Ysbrydolwyd hi wrth iddi astudio gweithiau’r cyfnod Rhamantaidd a gwaith William Owen Pughe. Wrth iddi ymchwilio, sylwodd ar ddylanwadau ac ar syniadau mytholegol oedd wedi eu gweu i storiâu’r Mabinogi.
‘Roedd Charlotte Guest yn wraig alluog a medrus. Meistrolodd Arabeg, Hebraeg a Perseg heb gymorth athro i’w harwain. Mae’r cyfnod yr ysgrifennir amdano yn “Ta’rik al-rusul wa’l-muluk” yn ymestyn o greu’r byd i gyfnod y Proffwyd Shu’ayb yn Y Corân. Mae’n ddigon posib iddi ddefnyddio delweddau o’r stori i ysbrydoli ei chyfieithiadau o’r Mabinogi a llyfrau eraill. Dyma un o’r gweithiau cyntaf i’w gyhoeddi gan “The Oriental Translation Fund”. Mae’r dudalen gyflwyno yn brawf sicr o’r edmygedd o waith yr Arglwyddes Charlotte Guest.
2. Bromwich, R. The Mabinogion and Lady Charlotte Guest <https://journals.library.wales/view/1386666/1422443/128>, Trafodion Anrhydeddus Cymdeithas y Cymrodorion, 1986, 127-41
Traddowyd darlith flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig eleni ar nos Fawrth 2il Tachwedd. Roedd yn rhaid i ni ohirio’r ddarlith y llynedd oherwydd cyfyngiadau Covid-19 a chynnal panel trafodaeth ar-lein yn lle, felly roedd darlith yr Athro Paul O’Leary yn hir ddisgwyliedig.
2020 oedd y tro cyntaf yn ei hanes roedd yn rhaid ohirio’r ddarlith, ac eleni roedd y tro cyntaf iddi gael ei chynnal tu allan i Aberystwyth. Y Senedd ym Mae Caerdydd felly oedd lleoliad darlith 2021, a’r teitl oedd Lloyd George, Empire & the Making of Modern Ireland.
Fel nododd Paul O’Leary roedd Lloyd George wedi bod yn weithgar yn ystod ei yrfa cynnar mewn ymgyrchoedd dros ymreolaeth i Gymru ac fel Canghellor roedd wedi rhoi cymorth ariannol i’r Llyfrgell Genedlaethol. Roedd yn addas iawn felly bod y Llyfrgell Genedlaethol yn cynnal darlith ar Lloyd George yn Senedd Cymru.
Roedd Iwerddon wedi chwarae rôl yng ngyrfa Lloyd George ers iddo gael ei ethol i Senedd y DG 1890; roedd e’n frwd dros ymreolaeth a chafodd ei ysbrydoli gan ymgyrchwyr tir Iwerddon ond roedd ymerodraeth Prydain yn ganolog i’w fyd olwg. Dadlodd Paul O’Leary ei fod yn cydymdeimlo gydag unolaethwyr yn y gogledd ac er iddo credo bod y Deyrnas Unedig yn wlad o genhedloedd gwahanol nid oedd e’n gweld gwledydd Prydain, Cymru, Lloegr yr Alban ac Iwerddon yn yr un modd a gwledydd yr ymerodraeth fel Canada ac Awstralia. Roedd rhoi statws tebyg i Iwerddon yn gam rhy bell.
Roedd Dirpwry Lysgennad Iwerddon yng Nghymru yn gwylio o bell a roedd Llywydd Senedd Cymru, Elin Jones yn y gynulleidfa.
Cyfuno Wikidata ac OpenStreetMap i wella gwasanaethau mapio Cymraeg
Mae data agored fel cysyniad wedi datblygu’n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi’i yrru ymhellach gan yr angen am atebion cyflym, cydweithredol yn ystod y pandemig. Mewn sawl ffordd mae llwyfannau fel Wikidata ac OpenStreetMap (OSM), sydd wedi bod yn tyfu’n gyflym ers nifer o flynyddoedd bellach, yn arwain y chwyldro data agored hwn.
Set ddata mapio wedi’i chreu’n dorfol yw OSM, lle mae’r cyhoedd yn cydweithio i adeiladu map byd-eang mynediad agored cyfoethog, y gellir ei ailddefnyddio a’i addasu am ddim gan bawb.
Mae Wikidata yn set ddata agored cysylltiedig enfawr sy’n cynnwys data am bron popeth. Unwaith eto, gall unrhyw un gyfrannu ac ailddefnyddio am ddim, ond efallai’r gwahaniaeth mwyaf yma yw bod llawer o sefydliadau a chyfanredwyr data eraill hefyd yn cyfrannu.
Yn y ddwy set ddata hyn gellir rhoi enw pob endid mewn nifer o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg. A gellir ychwanegu amrywiadau ychwanegol ym mhob iaith hefyd.
Yng Nghymru mae gennym gymunedau bach o gyfranwyr gweithredol am y ddau brosiect, ac mae’r ddau yn derbyn cefnogaeth gan Uned Technoleg a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru. Am nifer o flynyddoedd mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cefnogi Wikidata yn uniongyrchol trwy benodi ‘Wicimediwr Cenedlaethol’.
Mae’r prosiect sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn bartneriaeth rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a thîm Mapio Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Mae cyfuno Wikidata ag OSM yn caniatáu inni adeiladu ar waith Mapio Cymru, sydd wedi bod yn datblygu map o Gymru gan ddefnyddio’r data Cymraeg a gedwir yng nghronfa ddata OSM. Trwy alinio a chyfuno hyn â Wikidata gall y map ddechrau tyfu ymhellach, gan gynnig mwy o wybodaeth i ddefnyddwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ac mae hyn yn bwysig. Mae gan lawer o leoedd yng Nghymru, boed yn drefi, pentrefi, bryniau neu draethau, ddau enw, neu fwy weithiau. Mae’r enwau yn Gymraeg bron bob amser yn enwau lleoedd gwreiddiol, enwau hynafol sydd yn llawn hanes. Mae’r enwau hyn fel arfer yn ddisgrifiadol neu’n cyfeirio at seintiau, penaethiaid neu gaerau a gollwyd ers amser maith. Mae’r fersiynau Saesneg o enwau lleoedd weithiau’n fwtaniadau diystyr o’r rhai gwreiddiol Cymraeg neu enwau a orfodir gan oresgynwyr canoloesol neu ‘foderneiddwyr’ Fictoraidd. Hyd yn oed heddiw mae adeiladau hanesyddol yn cael ei ailenwi yn Saesneg gan eu perchnogion newydd ac mae enwau Cymraeg yn cael eu gollwng o wefannau a mapiau o blaid dewisiadau Saesneg y bernir eu bod yn ‘haws i’w ynganu’.
Blaenorol
Nesaf
Nod y prosiect hwn yw dadgoloneiddio mapio yng Nghymru, nid trwy ddileu enwau lleoedd Saesneg o’r cofnod ond trwy gynnig yr opsiwn i ddefnyddwyr weld ac archwilio map modern o Gymru trwy gyfrwng Cymraeg yn unig – gwasanaeth nad oedd yn bodoli mewn gwirionedd tan y lansiad o Mapio Cymru.
Felly’r her gyntaf gyda’r prosiect hwn mewn gwirionedd yw annog cymunedau i gyfrannu eu henwau Cymraeg lleol i OSM neu Wikidata fel y gellir eu cynnwys ar y map, a gwneir hyn trwy gyfres o drafodaethau, gweithdai a digwyddiadau golygu.
Mae’r agwedd dechnegol o gyfuno Wikidata ag OSM yn dechrau gydag alinio’r ddwy set ddata. Mae OSM yn caniatáu ichi ychwanegu’r ID’s Wikidata cyfatebol ar gyfer lleoedd yn ei gronfa ddata, ac mae hyn yn gadael i ni wybod pa leoedd sydd ar goll o’r naill neu’r llall o’r setiau data, ac yn fwy penodol, y bylchau yn y data Cymraeg. Trwy edrych ar leoedd Cymraeg sydd eisoes wedi’u halinio â Wikidata roeddem yn gallu ychwanegu dros 5000 o enwau lleoedd Cymraeg ychwanegol at deils Mapio Cymru gan ddefnyddio labeli Cymraeg o Wikidata, a dylai’r nifer hwn barhau i godi wrth i fwy o leoedd yn OSM gael eu halinio â Wikidata a gyda mwy o enwau Gymraeg yn cael i ychwanegu.
Mae rhoi enwau Wikidata yn uniongyrchol ar deils map OSM yn un ffordd o ychwanegu gwerth at y map o Gymru, ac yn ffordd o uno dwy gymuned benodol at yr achos. Fodd bynnag, gallwn hefyd ddod â gwerth pellach trwy ychwanegu croen Wikidata ar ben y map OSM. Mae’r haen ychwanegol yn caniatáu inni roi pins (neu bwyntiau) ar y map ar gyfer nifer o wahanol fathau o ddata, megis hybiau trafnidiaeth, gwasanaethau meddygol, traethau ac adeiladau hanesyddol. Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr hidlo mathau penodol o gynnwys, ac yn rhoi opsiwn iddynt weld llawer o leoedd nad oes ganddynt ddata OSM Cymraeg eto. Mae’r map profi cysyniad isod yn dangos sut y gallai hyn edrych;
Gan feddwl ymhellach ymlaen, gellid addasu’r math hwn o ryngwyneb yn hawdd fel llwyfan torfol, gan ganiatáu i’r gymuned gweld ac yna llenwi bylchau yn y data trwy gyfrannu at OSM neu Wikidata.
Yn y pen draw, gallai’r map hefyd ffurfio’r sylfaen ar gyfer llwyfan llywio lloeren Cymraeg.
Mae gwneud y cysylltiad â Wikidata hefyd yn arwain at botensial ychwanegol, gan ei fod yn dal llawer mwy o wybodaeth na chyfesurynnau ac enwau amlieithog yn unig, gan gynnwys delweddau a dolenni i erthyglau Wikipedia. Mae’r wefan profi cysyniad isod yn dangos ffordd arall y gallai Wikidata gyfuno ag OSM i gysylltu defnyddwyr ag erthyglau Wikipedia Cymraeg perthnasol.
Ar gyfer y prosiect hwn rydym hefyd wedi gweithio gyda Chomisiynydd yr Iaith i ychwanegu enwau lleoedd safonol i Wikidata, felly gellir arddangos y rhain hefyd ar y map prototeip. Mae cyfanswm o 10,000 o enwau lleoedd Cymreig wedi’u hychwanegu at Wikidata gan ddefnyddio Data Agored Llywodraeth Cymru a ffynonellau Data Agored eraill a bellach gellir gweld y cyfan ar y map prawf.
Gobeithiwn y gall gwaith parhau i ddatblygu’r map, ac mae diddordeb eisoes gan sefydliadau dwyieithog mewn defnyddio map OSM Cymru i wella eu gwasanaethau Cymraeg ar-lein.
Map yw hwn sy’n perthyn i bobl Cymru. Mae’n endid byw ac mae ei fodolaeth yn dyst i gryfder y Gymraeg a phenderfyniad y rhai sy’n gwirfoddoli eu hamser er mwyn sicrhau ei dyfodol. Mae’r map yn fwy na chofnod o enwau Cymraeg yn unig, mae’n sail ar gyfer gwasanaeth mapio Cymraeg modern, cyfoethog, y gall pawb ei ddatblygu a’i ddefnyddio.
Ar 4 Tachwedd 2021 cofiwn am eni ‘meistres y nofel hanes Gymraeg’ Rhiannon Davies Jones. Ym mis Mehefin 2017 derbyniodd y Llyfrgell bapurau Rhiannon Davies Jones ac aelodau o’i theulu yn rhodd gan ddwy berthynas iddi. Fe’i ganwyd ar 4 Tachwedd 1921 yn Meirion House, Llanbedr, Sir Feirionydd, i’r Parchedig Hugh Davies Jones, gweinidog gyda’r Bedyddwyr, a Laura ei wraig oedd yn athrawes. Priodwyd ei rhieni yng Nghapel hanesyddol Salem yn Llanbedr a ganwyd dwy o ferched iddynt, Annie a Rhiannon. Bu’r teulu’n byw yng Nghroesoswallt tan 1924 gan symud i Feirionnydd yn dilyn marwolaeth eu tad.
Astudiodd Rhiannon Davies Jones ym Mhrifysgol Bangor gan raddio yn y Gymraeg yn 1944 a bu’n athrawes Gymraeg yn Llandudno a Rhuthun. Fe’i hapwyntiwyd yn ddarlithydd yng Ngholeg Addysg Caerllion yn 1963 cyn dychwelyd i Fangor yn 1965 lle bu’n dysgu ac ysbrydoli llawer o fyfyrwyr drwy ei chwrs ysgrifennu creadigol yn y Coleg Normal.
Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1960 am Fy Hen Lyfr Cownt, nofel ar ffurf dyddiadur dychmygol am yr emynyddes Ann Griffiths, ac am Lleian Llan Llŷr yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1964.
Rhiannon Davies Jones yn nefod y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1964.
Cyhoeddwyd tair nofel ar ffurf trioleg am Lywelyn ein Llyw Olaf sef Cribau Eryri (1987), Barrug y bore (1989) ac Adar drycin (1993).
Cyflwynwyd copi o draethawd MA Rhiannon Davies Jones ‘Dychan mewn llenyddiaeth Gymraeg’ (1975) gyda’r papurau a llyfrau ymwelwyr, 1947-2002, a gadwyd mewn dau gartref sef Glynor, Llanfair ger Harlech, a Gwernyfed, Porthaethwy. Cafwyd sawl ymweliad gan bobl adnabyddus fel Bob Owen, Croesor a Gwynfor Evans.
Llyfrau Rhiannon Davies Jones
Bu farw Rhiannon Davies Jones yn Ysbyty Penrhos Stanley yng Nghaergybi yn 92 oed ar 22 Hydref 2014 ar ôl salwch hir. Cafodd ei chladdu ym mynwent Capel Salem, Llansilin. Cofiwn felly am ei chyfraniad gwerthfawr i’n llenyddiaeth ac yng ngeiriau Eigra Lewis Roberts yn ei hysgrif goffa iddi yn Barn:
Prif lenor a lwyddodd yn ei nofelau hanesyddol tawel ond taer nid yn unig i gonsurio’r gorffennol ond i roi mynegiant i wewyr a gorfoledd merched.
Mae angen eich help arnom! Mae’r Prosiect Datgloi Ein Prosiect Treftadaeth Sain (DETS) a Sefydliad Cyfnewid Treftadaeth a Diwylliannol Tiger Bay yn gweithio gyda gweithwyr llawrydd i greu darn newydd o waith wedi’i ysbrydoli gan y ffilm ‘Tiger Bay and the Rainbow Club’ a hanesion llafar a recordiwyd o’r ardal. Rydym yn ceisio dod o hyd i berthnasau cyfweleion a recordiwyd gan Ganolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown.
Prosiect pum mlynedd yw Datgloi Ein Treftadaeth Sain, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Cenedlaethol ac a arweinir gan y Llyfrgell Brydeinig. Nod y prosiect yw cadw a darparu mynediad at recordiadau sain ledled y DU. Mae deg Canolfan Cadwraeth Sain Rhwydweithiol wedi’u sefydlu ledled y DU ac wedi derbyn cyllid am dair blynedd i ddelio â’r bygythiad sy’n wynebu recordiadau sain. Mae’r prosiect wedi canolbwyntio ar ddigido a chadw recordiadau sain unigryw prin, y rhai sydd dan fygythiad o ddirywiad corfforol a’r rhai sydd mewn perygl o gael eu colli oherwydd nad yw’r offer chwarae ar gael bellach.
Mae un o’r casgliadau a ddigidwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys recordiadau hanes llafar yn ymwneud â phobl sydd (a oedd yn arfer) byw a gweithio ym Mae Tiger, neu Butetown, a Dociau Caerdydd. Mae’r cyfweliadau a gynhaliwyd rhwng 1984 a 2000 yn cynnwys sawl prosiect megis hanes bywyd, cyfweliadau Artistiaid, yr Ail Ryfel Byd, Hynafgwyr Somali a llawer mwy.
“Nod digido’r hanesion llafar hyn yw eu cadw a’u gwneud yn hygyrch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae Tiger Bay wedi datblygu dros y Canrifoedd a bellach gellir clywed y gorffennol drwy leisiau’r gymuned eu hunain. ”Alison Smith, Rheolwr Hwb Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain.
“Mae’r Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliannol yn sefydliad cymunedol sy’n annog cyfranogiad pobl leol yn natblygiad, a’r defnydd parhaus o’r casgliad o dapiau a ffotograffau hanes llafar fel y gall pawb weld cyflawniadau a dycnwch eu cyndeidiau. Rydyn ni’n adrodd straeon y bobl a oedd yn byw ac yn gweithio yn y Dociau i ysgolion, colegau a thrwy arddangosfeydd.
Rydyn ni am i’r byd wybod ein bod ni yma ac wedi bod am amser hir iawn.
Mae’r Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliannol eisiau rhoi credyd llawn a dangos parch at y rhai a rannodd eu straeon ond mae angen help arnom i adnabod rhai ohonynt neu eu perthnasau byw. Allwch chi ein helpu ni? ” Gaynor Legall, Cadeirydd Cyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliannol Tiger Bay
Mae’r cyfweliadau hyn yn ddarn sylweddol o hanes amrywiol y ddinas a glywyd gan leisiau pobl o ardal Tiger Bay. Mae’r alwad hon ar gyfer cyfweleion neu eu perthnasau er mwyn i ni ddefnyddio rhan o’u straeon. A oes gennych unrhyw wybodaeth am James Sapo Mannay, Ronald Jenkins, Joan Duggan, Katie Anderson Johnson, Abbas Abdullah, Christopher Stephens, Sunday a Eva Dennis a Harry Jarrett? Os felly, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda ar uosh@llyfrgell.cymru
Ganed un o Gymry enwocaf yr 20fed ganrif, Dylan Thomas, ar y diwrnod hwn ym 1914. Gan mai heddiw fyddai ei ben-blwydd yn 107 oed, penderfynais ymchwilio casgliad y Llyfrgell o adnoddau electronig i weld beth allwn i ddod o hyd am un o’n beirdd pwysicaf.
Lle gorau i ddechrau na’r cofnod cynhwysfawr hwn yn yr Oxford Dictionary of National Biography. Mae hyn yn rhoi cipolwg ar ei fagwraeth a’i addysg, ac yn trafod ei ddatblygiad fel bardd, ei lwybr at enwogrwydd a’i ymddygiad drwg-enwog a arweiniodd at ei farwolaeth yn llawer rhy ifanc yn 39 oed: https://doi.org/10.1093/ref:odnb/36471
Heb os, roedd Thomas yn un o feibion enwocaf Abertawe, ac mae’r erthygl hon o’r World Literature Today yn JSTOR yn trafod nifer o leoliadau yn y ‘dref hyll, hyfryd’ hon sy’n gysylltiedig ag ef: https://www.jstor.org/stable/10.7588/worllitetoda.90.3-4.0005
Mae’n debyg mai Under Milk Wood yw gwaith enwocaf Thomas ’, a gafodd ei ysgrifennu’n wreiddiol fel drama ar gyfer radio. Yn fuan ar ôl ei ddarllediad cyntaf ar Radio BBC, enillodd y Prix Italia am raglen lenyddol / ddramatig orau. Oherwydd ei lwyddiant ysgubol, cafodd ei addasu’n gyflym ar gyfer y llwyfan a’r sgrin. Mae’r erthygl hon o Critical Studies in Television (Sage Journals) yn dadansoddi’r trawsnewidiad i’r cyfryngau corfforol hyn, i drio darganfod os oeddent yr un mor llwyddiannus: https://doi.org/10.7227/CST.9.3.8
Yn dilyn ymlaen o’r erthygl hon, ddes i o hyd i adolygiad positif iawn yn y Daily Mail o berfformiad cyflawn cyntaf o Under Milk Wood yn y Deyrnas Unedig, a gynhaliwyd yn yr Old Vic yn Llundain ym 1954. Yn yr adolygiad, sydd i’w weld yn Gale Primary Sources, dywed yr adolygydd iddo feddwl fod y ddrama fel yr oedd wedi ysgrifennu yn “unwieldy mass of adjectives”. Mae’n amlwg fod y cast, a oedd yn cynnwys ei gydwladwr Richard Burton a’r Fonesig Sybil Thorndike, wedi helpu i godi’r ddrama i lefel arall. “On the stage, the magic of these eight voices set the ears ablaze with his verbal fireworks.” ‘Gust of Wicked Welsh fun’ yn wir!! https://link.gale.com/apps/doc/EE1864227004/DMHA?u=nlw_ttda&sid=bookmark-DMHA&xid=98dcf147
Pa ffordd well o ddod i ben na’ch gadael gyda’r casgliad hwn o ddyfyniadau a gymerwyd o Chambers Dictionary of Great Quotations, sydd ar gael trwy Credo Reference. Maent yn cynnwys dyfyniadau o weithiau amrywiol Thomas ’, yn ogystal â nifer o ddyfyniadau personol enwog: https://search.credoreference.com/content/entry/chambq/thomas_dylan_marlais_1914_53/0
Paul Jackson Llyfrgellydd Adnau Cyfreithiol, Electronig a Derbyn
Mae Billy Boston yn un o’r chwaraewyr rygbi Cymreig mwyaf talentog a llwyddiannus erioed, ond eto ni chydnabuwyd ei gampau yn llawn yng Nghymru am flynyddoedd lawer. Mae ei yrfa yn stori chwaraeon wych, ac yn un sy’n haeddu cael ei adrodd.
Ganed Billy yn Butetown, Caerdydd, ym 1934, a daeth yn seren rygbi yn y 1950au a’r 1960au. Deuai ei fam o gymuned Wyddelig Caerdydd, a morwr du o Sierra Leone oedd ei dad. Yn fachgen, chwaraeodd Billy Rygbi’r Undeb dros Glwb Athletau Rhyngwladol Caerdydd (CIACS), clwb a oedd yn adlewyrchu natur amlhiliol dociau Caerdydd. Roedd yn asgellwr eithriadol o dalentog, gyda chyflymder, cryfder, cydbwysedd a deallusrwydd pêl-droed gwych, yn ogystal â’r gallu i ochrgamu’n ddawnus. Fe gynrychiolodd Billy Gymru ar lefel Ieuenctid, ond ei freuddwyd oedd chwarae dros Gaerdydd, ac efallai dros Gymru rhyw ddydd. Nid oedd unrhyw amheuaeth ei fod yn ddigon da.
Chafodd Billy erioed y cyfle i wireddu’i freuddwyd o chwarae i Gaerdydd, a’r un oedd hanes Johnny Freeman a Colin Dixon, chwaraewyr du eraill a aethant ymlaen o CIACS i gael gyrfaoedd llwyddiannus iawn yn Rygbi’r Gynghrair. Ymhellach, ni ddewiswyd unrhyw chwaraewr du i gynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol lawn yn Rygbi’r Undeb tan yr 1980au.
Roedd rhaniad chwerw wedi datblygu rhwng Rygbi’r Undeb a Rygbi’r Gynghrair ar ôl iddyn nhw ymrannu ym 1895 – gêm amatur oedd Undeb, tra bod y Gynghrair yn broffesiynol. Roedd proffesiynoldeb wedi’i wahardd gan yr Undeb ac fe gafodd chwaraewyr a aeth i ogledd Lloegr i chwarae Rygbi’r Gynghrair – neu a siaradodd â sgowt o’r Gynghrair, hyd yn oed – eu diarddel. Roedd Undeb yn hollol amatur, a pharhaodd y rhagrith a’r stigma nes i’r gêm ddod yn broffesiynol ym 1995. Fodd bynnag aeth cenedlaethau o chwaraewyr rygbi Cymru – llawer ohonyn nhw’n ddu – i chwilio am gyflogaeth yn Rygbi’r Gynghrair, yn enwedig ar adegau pan oedd Cymru yn dioddef yn economaidd.
Pan ddaeth clwb Wigan ato o Rygbi’r Gynghrair ym 1953, nid oedd Billy Boston am fynd i’r gogledd a gwrthododd ei fam eu cynnig o £1,000. Byddai Billy yn arwyddo am £3,000 a dim llai. Roedd teulu Boston yn gobeithio ac yn disgwyl i hyn droi Wigan oddi wrth eu bwriad, ond roedd y clwb yn barod i dalu arian eithriadol am chwaraewr eithriadol, ac felly arwyddodd Billy gytundeb Rygbi’r Gynghrair yn 19 oed. Wedi gwneud, roedd yn gwybod na fyddai modd iddo byth wireddu ei freuddwyd nawr o chwarae Undeb dros Gaerdydd a Chymru. Y noson honno, wylodd ac ni allai gysgu.
Gwnaeth Billy argraff ar unwaith yn Wigan, a daeth yn arwr y Gynghrair yn ystod ei yrfa yno, a ddaeth i ben ym 1968. Chwaraeodd ar yr asgell, ond yn anarferol gallai chwarae’r un mor dda fel canolwr neu fel maswr. Daeth yn llai ystwyth tuag at ddiwedd ei yrfa, ond cadwodd ei gyflymder a datblygodd ei faint a’i gyhyrau a llaw rymus. Trichwarterwr Rygbi’r Gynghrair gyflawn oedd e, ac yn aml nid oedd modd ei atal.
Blwyddyn ar ôl iddo ymuno â Wigan, cafodd ei ddewis i gynrychioli Prydain Fawr, ac mae ystadegau ei yrfa’n dweud llawer: record clwb o 478 o geisiau mewn 487 o ymddangosiadau (110 yn fwy nag unrhyw chwaraewr Wigan arall mewn hanes); nifer o dlysau domestig; 30 o geisiau rhyngwladol mewn 31 o gemau Prawf; record Prydain Fawr am geisiau ar daith yn Awstralia; y chwaraewr cyntaf i sgorio 4 cais dros Brydain Fawr mewn un gêm yn erbyn Seland Newydd a buddugoliaeth yng Nghwpan y Byd ym 1960. Erbyn iddo ymddeol o Rygbi’r Gynghrair ym 1970, roedd Billy wedi sgorio 572 o geisiau mewn 562 o ymddangosiadau yn ystod ei yrfa – dim ond yr asgellwr Brian Bevan o Awstralia sydd erioed wedi sgorio mwy.
Croesawyd Billy fel un o’u tylwyth eu hunain gan bobl Wigan, nid yn unig oherwydd ei lwyddiant ar y cae ond oherwydd ei fod yn chwaraewr tîm a oedd yn ostyngedig ac yn hawdd siarad ag ef. Teimlai Billy’n gartrefol yn Wigan, ac fe gadwodd dafarn ger cae’r clwb ar ôl i’w ddyddiau chwarae ddod i ben; ni ddaeth byth yn ôl i fyw yng Nghymru. Roedd poblogaeth Wigan bron yn gyfan gwbl wyn, ond bu’r clwb rygbi yn gosmopolitaidd ac yn amlhiliol ers amser maith, fel yr oedd Rygbi’r Gynghrair yn gyffredinol, a daeth chwaraewyr i mewn o bob cwr o’r byd. Yn anffodus, fodd bynnag, mi wnaeth Billy brofi gwahaniaethu yn ei erbyn ar sail hil, yn arbennig pan chwaraeodd Prydain Fawr sawl gêm yn Ne Affrica ar ôl Cwpan y Byd 1957. Dywedodd De Affrica wrth Billy – a oedd eisoes yn anfodlon cymryd rhan yn y rhan hon o’r daith oherwydd apartheid, ac oherwydd ei fod bellach wedi cael ei anafu – bod lliw ei groen yn golygu na allai aros yn yr un gwesty â gweddill y garfan, ac na allai ymweld â’u gwesty na chwarae yn unrhyw un o’r gemau. Gwrthododd Billy y telerau hyn. Aeth tîm Prydain Fawr i Dde Affrica hebddo.
Mae Billy Boston wedi cael ei barchu’n uchel a’i ddathlu yn Rygbi’r Gynghrair ers ei ddyddiau cynnar yn Wigan. Mae cerfluniau ohono yn Wembley ac yn Wigan, lle mae eisteddle wedi cael ei enwi ar ei ôl, ac roedd yn un o aelodau gwreiddiol Oriel Anfarwolion Rygbi’r Gynghrair a hefyd Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru. Mae dinas Caerdydd hefyd yn cydnabod cyflawniadau Billy bellach, ac yn ffodus mae hyn wedi digwydd yn ystod ei fywyd. Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddwyd y bydd cerflun yn darlunio Billy Boston gyda dau arwr Rygbi’r Gynghrair arall a ddaeth o ardal dociau Caerdydd, Clive Sullivan a Gus Risman.
Cymerodd amser hir, fodd bynnag, i gêm yr Undeb ddechrau cydnabod llawer o chwaraewyr o Gymru sydd wedi cyflawni pethau m yn Rygbi’r Gynghrair. Mae’r rhain yn cynnwys nifer o’r chwaraewyr gorau erioed yn unrhyw gôd rygbi ond er bod eu campau yn Rygbi’r Gynghrair wedi cael eu dathlu yng ngogledd Lloegr ers talwm, anaml mae hyn wedi bod yn wir yng Nghymru. Arwyr anghofiedig rygbi Cymru oedd y rhain.
Er bod hanes Billy Boston ac eraill tebyg i’w ddarganfod yma yn y Llyfrgell trwy gasgliadau megis ein llyfrau print, papurau newydd a rhai o’r Adnoddau Allanol rydym yn tansygrifio iddyn nhw, rydym yn awyddus i ddatblygu ein casgliadau sy’n ymwneud ag agweddau ar fywyd Cymru sydd o bwysigrwydd cenedlaethol ond sydd serch hynny wedi’u tan gynrychioli. P’un ai bod yn ymwneud ag hil, codau rygbi neu unrhyw beth arall os gallwch chi ein helpu gyda hyn, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.
Byddaf yn codi fy llaw yn syth a dweud fy mod wedi bod yn rhy uchelgeisiol mewn gwirionedd gyda’r blog hwn, yn bennaf gan mai dysgwr Cymraeg lefel mynediad ydw i, a bod y ffeiliau sain hyn angen siaradwr fwy rhugl achos eu cymhlethdod a’u bod wedi’u llurgunio drwy’r broses ddigido.
Fodd bynnag, roedd y broses o wrando ar y ffeiliau sain, a oedd yn ffurfio rhan o‘r broses beirniadu cystadleuaeth yr awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1949, yn ymarfer da i’m hymennydd. Yr oeddwn wedi mwynhau gwrando ar lais arbennig Syr Thomas Herbert Parry-Williams; yr oedd y geiriau wnes i eu deall yn paentio darlun o ddiffyg brwdfrydedd y mwyafrif o’r ymgeiswyr.
Yn ôl yr hanesydd Jan Morris, un o ddigwyddiadau pwysicaf yr Eisteddfod yw cadeirio’r bardd – anrhydedd a roddir i’r person sydd wedi ysgrifennu’r awdl orau, yn y mesur caeth, yn seiliedig ar destun a osodwyd gan y beirniaid. Yn 1949, y testun oedd ‘Y Graig’; yr enillydd yn ôl nodiadau’r beirniaid a gedwir yn archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru oedd y bardd gyda’r ffugenw ‘Coed y Gell’ a dyna sail i’r ail ffeil sain yn y casgliad hwn.
T. H. Parry-Williams
TH Parry-Williams, rhif 11/41 o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol gan Julian Sheppard
Adlewyrchir siom Parry-Williams yn ei ragymadrodd ysgrifenedig:
O’r ugain cynnig a ddebynwyd eleni nid oes ond rhyw hanner dwsin “o fewn terfynau gobaith”. Y mae gweddill yr ymgeiswyr i gyd ond un (sef Herbert sydd heb lunio awdl) wedi cynganeddu eu deunydd yn ddygn, ond nid oes ar eu gwaith raen digon gorffenedig i obeithio llwyddo mewn cystadleuaeth fel hon (Parry-Williams, 1949, tud.63)
Barn Parry-Williams oedd mai dim ond chwech o’r ugain o gyfansoddiadau a dderbyniwyd yn 1949, oedd yn deilwng ac “o fewn terfynau gobaith”. Wedi i’r cystadleuwyr gael eu siomi gyda’i feirniadaeth, dywedodd nad oedd eu gwaith o safon ddigonol i lwyddo mewn cystadleuaeth fel yr Eisteddfod. A dweud y gwir mae ei gwyn yn hen gwyn – mae’r cystadleuwyr yn gwneud gymaint o smonach fel ei bod yn anodd dweud unrhywbeth o werth am yr ymgeiswyr.
Yn y ddwy ffeil sain, mae gan Parry-Williams arddull areithio pwyllog sy’n symud rhwng ei farn ac ef yn adrodd rhannau o waith yr ymgeiswyr. Ar ddechrau ffeil un, mae’n enwi ymgeisydd – Mr Pwyl. Rydw i’n teimlo fel archaeolegydd, yn ffwndro i wneud synnwyr o iaith, yn gwybod ei bod yn bosib i fi ei chamddehongli ac mae llawer o’r ffeil sain gyntaf yn aneglur i fi.
Gyda chymorth nodiadau printiedig y beirniaid, rydw i’n dod drwyddi rywsut. Mae yna gyfeiriad at awdl Glan yr Afon – sy’n fy nghyfeirio at adran yn y nodiadau lle mae Parry-Williams yn ei chynnwys gyda phedwar ymgeisydd arall sydd ar waelod siart y deg awdl orau! Mae’n ei gweld yn gain, ond braidd yn undonog; wedi iddo ysgrifennu’r awdl yn seiliedig ar un Crist yn graig, mae Parry-Williams o’r farn ei bod yn anodd dod â bywyd newydd i hen thema, ac mae’n beirniadu’r bardd am bregethu o’r Efengylau, a malu awyr i wneud pwynt. Fodd bynnag mae Parry-Williams yn gwerthfawrogi’r arddull glir ac annwyl cyn “mynd dow-dow yn dawel i’r diwedd” (Parry-Williams, 1949, tud. 67).
Ar ddiwedd y ffeil sain cyntaf, yn sŵn chwibanu’r trên o Ddolgellau, mae Parry-Williams yn cyfeirio at Graig Gibraltar. Dyma destun awdl Uwch y Lli, mewn tair rhan:Gwyryfdod, Gwae,a Gobaith. Mae’n ymdrech braidd yn lletchwith, ond mae ganddo ddawn i gyfleu ymdeimlad o le. Yn y nodiadau mae Parry-Williams yn egluro hyn drwy gynnwys dau bennill; yn anffodus nid ydyw yn eu darllen yn y recordiad, felly ni allwn wrando arnynt yma.
Mae ffeil sain rhif un yn gorffen ar nodyn hapusach, neu mae Parry-Williams o leiaf yn cael saib, ac mae tôn ei lais yn ysgafnhau, yn llai fel darlithydd, ac yn rhoi fwy o anogaeth.
Ceir camgychwyn ar ddechrau ffeil sain dau, ond mae Parry-Williams yn adrodd detholiad o awdl fuddugol Coed y Gell mewn arddull hyfryd sy’n cyfateb i’w drawsgrifiad yn ei nodiadau:
Druan o’r haf a’i feddal betalau
Rhyw ias ddiaros yw hedd ei oriau.
Dihuno gwig a mynd a wna’i gogau;
Gwywa, a bidd doreithiog y beddau.
Tua diwedd y ffeil mae Parry-Williams yn newid tôn ei lais eto ac mae’r gair sylfaen yn cael ei glywed sawl gwaith. Mae’n gwneud i’r gynulleidfa roi chwerthiniad bach ac mae’n gorffen ei araith i gymeradwyaeth fyddarol.
Trueni nad yw nodiadau’r beirniad sydd yn yr archifau yn cyfateb yn union i’r ffeiliau sain. Heblaw gwneud fy mywyd yn haws wrth drawsgrifio’r ffeiliau (methais wneud hyn), efallai y byddai wedi gwneud fwy o synnwyr i’m tybiaeth fod dehongliadau’r cystadleuwyr o Y Graig yn cynnwys cyfeiriadau daearyddol fel Gilbraltar, Ayers Rock, Clogwyn (ger Caernarfon), Derwydd (ger Rhydaman), yn ogystal â thrafodaeth ddryslyd ar os yw creigiau amrywiol, gan gynnwys Carreg y Drewi, yn gysylltiedig gyda Threfdraeth.
Plac T.H. Parry-Williams ar Ffordd y Gogledd, Aberystwyth
Yr oedd Syr Thomas Parry-Williams yn fardd enwog ac yn ysgolhaig ei hunan. Bu farw yn Aberystwth yn 1975, yn ei gartref yn Ffordd y Gogledd, wedi cael bywyd llawn ond braidd yn fewnblyg. Cyhoeddodd Ugain o Gerddi yn yr un flwyddyn ag yr oedd yn feirniad ar gystadleuaeth yr awdl. Mae rhai o’i gerddi yn ymwneud â’i olwg trosgynnol ar fywyd, yn arbennig tirwedd Eryri (Price, 2014). Efallai mai dyna pam roedd ef mor gynnil gyda’i ganmoliaeth i Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau yn 1949.
Eisteddfod Genedlaethol 1949: Adroddiad Blynyddol
Rasma Bertz, Gwirfoddolwraig Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain
Yn ddiweddar, derbyniodd y Llyfrgell bapurau W. Macqueen-Pope (Popie) sy’n ymwneud ag ‘Ivor: The Story of an Achievement‘, ei gofiant i Ivor Novello, a gyhoeddwyd gan W. H. Allen, 1951. Mae’r grŵp pwysig hwn o bapurau yn rhoi mewnwelediad i fywyd a phoblogrwydd Ivor Novello (1893- 1951), yr actor a’r cyfansoddwr o Gymru a ddaeth yn un o ddiddanwyr mwyaf poblogaidd hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Mae’r papurau’n cynnwys gohebiaeth rhwng Ivor Novello a Macqueen-Pope, ond yn bennaf maent yn cynnwys cofiannau ac atgofion, gan actorion, a rhai oedd yn gweithio o fewn y celfyddydau yn dilyn marwolaeth Ivor ym 1951. Gellir gweld tystiolaeth o boblogrwydd Novello ymhlith y llythyrau at Macqueen-Pope wrth rai sy’n mynegi diddordeb yng ‘Nghymrodoriaeth Ivor Novello’.
Ymhlith yr eitemau sy’n cael eu harddangos yn ein harddangosfa gyfredol (2021) mae gohebiaeth (W. Macqueen-Pope ffeil 1), papurau ariannol (ffeil 12/1) a rhaglen wedi’i llofnodi (ffeil 13); a ffotograff cyhoeddusrwydd wedi’i lofnodi (NLW Ex 2980). Mae’r papurau’n ategu eitemau eraill yn ymwneud ag Ivor Novello a’i fam, y gantores, athrawes ac arweinydd Clara Novello Davies (1861-1943) sydd yng nghasgliadau’r Llyfrgell.
Dyma restr o’r prif gasgliadau o ddeunydd sy’n ymwneud ag Ivor Novello yn y Llyfrgell, a ceir gwybodaeth bellach ar y catalog archifau yma: https://archives.library.wales/
NLW MS 23204D. Papurau
“Ivor Novello papers, 1932-1983. Papers relating to David Ivor Davies (Ivor Novello, 1893-1951), composer, actor and playwright, comprising an autograph extract from his play I Lived With You (London, 1932) (ff. 1-6); letters, 1979-1982, from associates of Ivor Novello, ….photographs of the Welsh National Opera’s production of ‘Dear Ivor’, 1983 (ff. 23-4); together with a copy of a memorial tribute to Ivor Novello and theatre programmes, 1933-45, of productions of his works.”
NLW MS 23696E. Llythyrau
“Ivor Novello letters, 1908-1955 (mostly 1938-1955) Seven letters and two telegrams, 1939-1950, from the composer, actor and playwright, Ivor Novello, to Dorothy and Evelyn Wright, containing mainly personal news (ff. 1-13); together with additional personal papers, 1908-1955, compiled by the Wrights, including twelve letters to them from Lloyd Williams, Novello’s secretary, [?1940]-[?1944] (ff. 5, 14-19 verso), actors Peter Graves, 1951-1955 (ff. 22-24 verso), Leslie Henson, 1942 (f. 25), and Barry Sinclair, 1943 (f. 26), and Neville Chamberlain, 1938 (ff. 20-21); also included are a memorial tribute to Ivor Novello, 1951 (ff. 27-28 verso), photographs of him and his associates, [1910s]-[1940s] (ff. 29-34), and press cuttings, 1939-1951 (ff. 39-46). The collection contains references to theatrical productions at Johannesburg, 1947 (f. 8), the Pavilion Theatre, Bournemouth, [1940] (f. 14), the Palace Theatre, Manchester, [?1941] (f. 15), and the Adelphi Theatre, London, 1943 (f. 18).”
NLW MS 20972C a NLW MS 20973E. Llythyrau at Ivor Novello oddi wrth Sir Edward Marsh, 1914-1946.
NLW MS 23971D. Llawysgrif gerddorol, [c. 1930], can sydd heb ei chyhoeddi a gyfansoddwyd gan Ivor Novello, ‘Willow Pattern Plate’.
NLW MS 24041D. Llyfr ymwelwyr i stiwdio Angus McBean, 1949-1968, yn cynnwys Ivor Novello (f. 11).
Papurau Dr Terence Rees P3/4. Ac P3/10 . Llyfr lloffion, toriadau i’r wasg, rhaglenni a chyfnodolion, 1925-1988, yn ymwneud â bywyd a gwaith Ivor Novello. Ysgrif goffa hefyd.
Casgliad drama D. R. Davies (Aberdâr). Llyfrau lloffion, 3/1, 52, 27/2 a 4/3. Yn cynnwys erthyglau ar Ivor Novello a’i fam, Madame Clara Novello Davies.
Papurau Maxwell Fraser, H/24. (ac O/129) . Cyfrol o dorion papur newydd am Ivor Novello, 1944-70. A gwybodaeth am Ivor Novello.
Papurau Selwyn Jones 2. Gwybodaeth fywgraffyddol am gerddorion Cymreig yn cynnwys Ivor Novello
Archif Tŷ Cerdd, P/5. Papurau’r cerddor Selwyn Jones yn cynnwys llythyr oddi wrth Ivor Novello, 1950
NLW ex 2404. Papurau’n ymwneud a Ivor Novello, a’i angladd, 1951-2004.
NLW ex 2540. Papurau Madam Esther Cooper-Jones, 1911-2005, gan gynnwys tystysgrifau a rhaglenni cyngerdd, deunydd bywgraffyddol, llythyrau gan ei thiwtor Clara Novello Davies, a thoriadau papur newydd yn ymwneud â’i mab Ivor Novello.
Welsh National Opera Records, P1/29. And P2/47. Cynhyrchiad ‘Dear Ivor’, 1982-1983
Ffotografau amrwyiol ee: 29 ffotograff yn ymwneud a bywyd a gyrfa Ivor Novello. LLYFRAU FFOTO 1854 B ; Portread swreal o Ivor Novello gan Angus McBean. 1941 , LLYFRAU FFOTO 3433 D; a gweler hefyd LLYFRAU FFOTO 773 B , LLYFRAU FFOTO 1034 B , Portreadau B 51, a Portreadau AFF 38/1.
Portreadau. Mae’r portread o Ivor Novello gan Margaret Lindsay Williams 1888-1960 yn cael ei arddangos yn ein harddangosfa gyfredol Framed works of art collection MY20 ac hefyd mae darlun olew ar gynfas 1924 gan Emile Vere Smith Framed works collection CD01.
Ganrif union yn ôl, yn 1921, cyhoeddodd J. Gwenogvryn Evans ei ffacsimili du-a-gwyn o gynnwys Llyfr Du’r Waun (er mai 1909 sydd ar y wyneb ddalen!). Bellach, trwy haelioni un o noddwyr y Llyfrgell Genedlaethol, gellir gweld delweddau newydd sbon o’r llawysgrif ar ein gwefan.
Wyneb-ddalen ffacsimili Gwenogvryn Evans
Ar un adeg, credid mai’r llawysgrif hon – Peniarth 29 – oedd y gynharaf yn y Gymraeg. Erbyn heddiw, cydnabyddir ei bod ymysg y cynharaf, gan rannu pen-blwydd megis â Llyfr Du arall, sef yr un enwog o Gaerfyrddin. Ganed y ddwy yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg, un yn y Gogledd, a’r llall yn y De. Ond beth sydd ynddi?
Llawysgrif Gymraeg ydyw, wedi ei hysgrifennu ar femrwn, a hynny gan chwech o sgrifyddion, mewn dull digon rheolaidd a phroffesiynol, er bod lle i feddwl nad oeddent yn gyfarwydd iawn ag ysgrifennu Cymraeg.
Cynhwysa destunau cyfreithiol sy’n ymwneud â’r brenin a’i lys yn ôl ‘dull Gwynedd’ neu ‘ddull Iorwerth’, brenin o fewn cyd-destun Cymreig wrth gwrs, fel sy’n gweddu i lawysgrif o gyfnod cynnar tywysogaeth Llywelyn ap Gruffudd, ‘y llyw olaf’. Wedi amlinellu hawliau’r brenin a’i osgordd (Cyfraith y Llys – cofier am y delweddau hynny o lawysgrif Ladin gyfoes Peniarth 28), mae’r awduron yn nodi rhannau o’r gyfraith fyddai’n berthnasol i’r werin, a manylu ar werthoedd anifeiliaid ‘gwyllt a dof’ ac elfennau eraill. Ceir crynodeb, a thestun cyfleus a darllenadwy, ar wefan Cyfraith Hywel.
Y gyfraith sy’n ymwneyd â’r hebogydd, gwaelod t. 10
Ond mae yn y gyfrol ychwanegiadau diddorol y tu hwnt i’r testunau cyfreithiol: diarhebion, a marwnad Dafydd Benfras i’r tywysog Llywelyn ab Iorwerth o 1240, yr olaf yn atgof efallai o oes aur y gyfraith frodorol yn null Gwynedd.
Ond pam ei chyplysu â’r Waun, yn sir Ddinbych? Mae’r cynnwys yn awgrymu mai llawysgrif o Ogledd Cymru ydyw, ac erbyn 1615 roedd ym meddiant John Edwards o Blas Newydd, Y Waun, reciwsant a gollodd lawer o’i eiddo trwy atafaeliad cyn ei farw yn 1625. Yn ei gartref ef y copïwyd ei chynnwys gan Francis Tate i lawysgrif Llanstephan 68. Trwy John Jones o’r Gellilyfdy, yn ôl pob golwg, y daeth i feddiant Robert Vaughan o Hengwrt, a gwelir iddo yntau roi iddi’r teitl ‘Y llyfr du or Waun’ yn ei law gain ar yr hyn sy’n weddill o frig tudalen 114.
Arysgrif Robert Vaughan ar frig t. 114
Mae’r cloriau gwreiddiol duon wedi hen ddiflannu, ond mae’r hyn sy’n weddill o’r dail rhwymo yn niwedd y gyfrol.
A ninnau eisoes wedi digido Llyfr Du Caerfyrddin (Peniarth 1) a Llyfr Du Basing (llawysgrif NLW 7006D), pa sawl llyfr du arall sydd ar ôl i’w digido tybed?
Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.