Defnyddiwch Bàs COVID y GIG i brofi eich bod chi wedi cael cwrs llawn y brechlyn neu wedi cael prawf negatif i fynd i ddigwyddiadau mawr, clybiau nos a lleoliadau tebyg.
Os ydych am fynd i leoliadau mawrio mae'n rhaid ichi ddangos eich Pàs COVID y GIG i ddangos eich bod chi wedi cael cwrs llawn y brechlyn neu wedi cael prawf negatif.
Mae hyn yn berthnasol i:
- glybiau nos a lleoliadau tebyg
- lleoliadau dan do heb seddi, gyda mwy na 500 o bobl yn y gynulleidfa
- unrhyw leoliadau awyr agored neu dan do heb seddi gyda lle i fwy na 4,000 o bobl
- unrhyw ddigwyddiad, o unrhyw fath, gyda mwy na 10,000 o bobl yn bresennol
Gallwch gael Pàs COVID y GIG os ydych chi dros 16 oeda bod un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
- eich bod wedi cael cwrs llawn y brechlyn COVID-19
- eich bod wedi cael prawf COVID-19 negatif (prawf llif unffordd 48 awr cyn mynd i’r digwyddiad neu leoliad)
Profi eich bod wedi cael prawf negatif
I brofi eich bod chi wedi cael prawf COVID-19 negatif o fewn 48 awr cyn mynd i’r digwyddiad neu leoliad:
Bydd canlyniadau sy’n cael eu hanfon dros e-bost neu neges destun hefyd yn cael eu hystyried yn dystiolaeth o brawf negatif.
Os cawsoch eich brechu tu allan i'r DU
Bydd unigolion o'r gwledydd canlynol yn gallu darparu tystysgrifau sy'n dangos eu bod wedi cael eu brechu'n llawn:
- UDA
- gwlad ewropeaidd gymwys (EU27, EFTA a microstatau Ewropeaidd Andorra, Monaco, San Marino a Vatican City State)
- Albania
- Awstralia
- Antigua a Barbuda
- Bahamas
- Bangladesh
- Barbados
- Bahrain
- Bosnia a Herzegovina
- Brasil
- Brunei
- Canada
- Chile
- Colombia
- Dominica
- Aifft
- Georgia
- Ghana
- Grenada
- Hong Kong
- Israel
- India
- Indonesia
- Jamaica
- Japan
- Jordan
- Kenya
- Kosovo
- Kuwait
- Malaysia
- Maldives
- Moldova
- Montenegro
- Moroco
- Namita
- Seland Newydd
- Nigeria
- Gogledd Macedonia
- Oman
- Pacistan
- Philippines
- Qatar
- Saudi Arabia
- Serbia
- Singapore
- De Affrica
- De Korea
- St Kitts a Nevis St Lucia
- St Vincent a'r Grenadines
- Taiwan
- Gwlad Thai
- Twrci
- Ukrain
- yr Emiradau Arabaidd Unedig (UAE)
- Vietnam
Bydd angen i bob un arall sy'n bresennol ddarparu prawf llif unffordd negyddol.
