Rydym wedi oedi llawer o'n prosiectau ffyrdd ledled Cymru i gynnal adolygiad.
Cynnwys
Beth rydym yn ei wneud
Rydym yn cynnal adolygiad o'n cefnogaeth i gynyddu capasiti ffyrdd.
Ni fydd yr adolygiad yn effeithio ar rai prosiectau sydd eisoes yn cael eu hadeiladu. Dyma nhw:
- A465: Dowlais Top i Hirwaun (rhan 5 a 6)
- A465: Gilwern i Fryn-mawr (rhan 2)
- A483: Llandeilo
- A487: ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd
- A487: pont Ddyfi newydd
- A494: pont Afon Dyfrdwy
- A55: gwella ffordd Abergwyngregyn i Dai’r Meibion
- A4138: uwchraddio Cyffordd 48 a chyffordd yr Hendy
Pam rydym yn ei wneud?
Yn unol â Llwybr Newydd, strategaeth drafnidiaeth Cymru rydym am leihau ôl troed carbon Cymru i amddiffyn pobl a bywyd gwyllt rhag yr argyfwng hinsawdd.
Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni leihau nifer y siwrneiau a gymerir gan geir preifat a chynyddu nifer y bobl sy'n cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Ynglŷn y broses adolygu a'r hyn y bydd yn ei gynnwys
Rydym wedi penodi panel annibynnol i gynnal yr adolygiad. Caiff ei gadeirio gan Dr Lynn Sloman MBE, arbenigwr trafnidiaeth yng Nghymru sydd wedi bod yn rhan o Gomisiwn Trafnidiaeth yr Arglwydd Burns yn Ne-ddwyrain Cymru yn flaenorol ac sy'n ymwneud â datblygu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Gofynnir i'r Panel nodi ei ddull gwerthuso o fewn 3 mis a'i adroddiad terfynol o fewn 9 mis.
