Neidio i'r prif gynnwy

Rydym ni yn cynnig cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ledled Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ffyrdd cyfyngedig yn cynnwys ffyrdd lle mae goleuadau stryd wedi'u gosod dim mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd. Maent fel arfer wedi'u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig gyda gweithgaredd uchel i gerddwyr.

Gallai lleihau'r terfyn cyflymder o 30mya i 20mya yn yr ardaloedd hyn weld nifer o fuddion, gan gynnwys:

  • lleihad mewn gwrthdrawiadau
  • Mwy o gyfleon i gerdded a beicio yn ein cymunedau
  • helpu i wella ein iechyd a’n lles
  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel, a
  • diogelu ein amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus  dros gyfnod o 12 wythnos i ofyn am eich barn:

Cynnig i gyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru.

Cwblhewch yr arolwg ar-lein neu lawr-lwythwch, argraffwch a phostiwch eich ymateb trwy'r cyfeiriad Rhadbost.

Y dyddiad cau ar gyfer cymryd rhan yn yr ymgynghoriad yw 1af Hydref 2021.

Cam 1:  rhaglen terfyn cyflymder 20mya

Mae cam cyntaf o gyflwyno’r terfyn cyflymder o 20mya  wedi dechrau mewn 8 cymuned ledled Cymru. Bydd y data fydd yn cael ei gasglu yn cael ei ddefnyddio i gefnogi a llywio penderfyniadau yn y dyfodol. Y cymunedau hyn yw:

  • Llandudoch, Sir Benfro
  • Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin
  • Sant-y-brid, Bro Morgannwg
  • Canol Gogledd Caerdydd
  • Pentref Cil-ffriw, Castell-Nedd Port Talbot
  • Y Fenni, Sir Fynwy
  • Glan Hafren, Sir Fynwy
  • Bwcle, Sir y Fflint

Gwrandewch ar Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn siarad am Gam 1af 20mya.

SPOTLIGHT Wales

Byddwn yn cynnal SPOTLIGHT Wales trwy fis Gorffennaf fydd yn cynnwys nifer o weminarau byr yn canolbwyntio ar flaenoriaethau allweddol trafnidiaeth Cymru. Byddant yn edrych ar amcanion cynaladwyedd Trafnidiaeth Cymru, yr 'adolygiad o gysylltedd yr undeb' a ffocws ar agenda Cymru.

Adfywiad gwyrdd i drafnidiaeth

Bydd gweminar arall  rhwng 09:30 a 11:00, 21ain Gorffennaf. Bydd yn edrych ar ‘Adfywiad gwyrdd i drafnidiaeth’ a faint mor bwysig yw gosod terfynau cyflymder cenedlaethol o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig.

Green transport recovery webinar

There will be another webinar on 21 July: 9:30 to 11:00. It will look at how important it is to set 20mph limits as a national default speed on restricted roads.