Chwilio'r wefan
English

His Royal Highness The Duke of EdinburghAr ran pobl Abertawe rydym am fynegi ein tristwch mawr ar ôl clywed y newyddion am farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin. Ynghyd â llawer o gymunedau eraill yng Nghymru ac ar draws y byd, rydym yn cydymdeimlo'n ddidwyll â'r Teulu Brenhinol ar yr adeg hon.

 

Mae baneri'n chwifio ar eu hanner ar bob adeilad dinesig ac mae llyfr cydymdeimlad electronig hefyd wedi'i agor ar-lein yn www.abertawe.gov.uk/llyfrcydymdeimlad

 

Cynhelir cyfnod o ddistawrwydd ar ddechrau cyfarfodydd swyddogol.

 

Y Cynghorydd Rob Stewart

Arweinydd Dinas a Sir Abertawe. 

 

Y Cynghorydd Mark Child

Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe

 

Wedi'i bweru gan GOSS iCM