Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i chi:

  • aros yn lleol, fel arfer o gwmpas 5 milltir
  • beidio â chyfarfod cartrefi eraill dan do

Dylech hunanynysu a chael prawf os ydych chi neu unrhyw un yn eich cartref yn dangos symptomau.

Mae Cymru oll ar lefel rhybudd 4. Beth sydd angen ichi wneud ar lefel rhybudd 4.

Newidiadau diweddar a newidiadau i ddod

O 13 Mawrth

Bydd cyfyngiadau aros gartref yn cael eu codi. Bydd pobl yn cael teithio o fewn eu hardal leol.

Gall pobl gyfarfod teulu a ffrindiau sy'n byw yn lleol, cyn belled â'i fod tu allan. Gall mwyafswm o 4 person o 2 gartref gyfarfod, gan gofio cadw pellter.

Gall cyrtiau chwaraeon awyr agored, gan gynnwys cyrsiau golf ailagor.

Gall ymweliadau cartrefi gofal dan do gychwyn eto, gydag un ymwelydd wedi ei ddynodi.

O 15 Mawrth

Gall mwy o ddysgwyr ddychwelyd i ysgolion a lleoliadau addysg.

Gall siopau trin gwallt a barbwr ailagor ar gyfer apwyntiadau.