Arddangosfa stondin yn y farchnad yn ennill gwobr y Nadolig
Enwyd busnes teuluol poblogaidd fel y stondin mwyaf atyniadol ym Marchnad Abertawe y Nadolig hwn.
Roedd yr addurniadau Nadoligaidd yn Country Quality Meats and Delicatessen - sydd wedi'i gynnal gan yr un teulu ers dros 20 o flynyddoedd - wedi sefyll allan gyda thema eira ac iâ.
Bernir bod ganddo arddangosfa Nadoligaidd orau'r farchnad gan Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Mark Child. Roedd Iokasti's Kitchen yn agos at y brig, ychwanegiad diweddar i'r farchnad, sy'n cynnig bwyd Groegaidd y gallwch ei fwyta yn y farchnad neu ar ffurf cludfwyd.
Meddai goruchwyliwr y farchnad, John Burns o Gyngor Abertawe, "Mae deiliaid stondinau wedi gwneud ymdrech fawr eleni ac rydw i'n annog siopwyr i sicrhau bod y farchnad yn rhan allweddol o'u profiad siopa. Mae mesurau diogelwch ar waith yma.
"Mae ein masnachwyr yn mwynhau hwyl yr ŵyl ac mae'r farchnad yn edrych yn wych. Mae wedi'i haddurno â goleuadau gwych, peli pefr, dynion eira, corachod, coed Nadolig a chadwynau papur a wnaed â llaw."
Meddai'r Cynghorydd Child, "Mae'r gystadleuaeth yn gwneud un o'r lleoliadau siopa mwyaf poblogaidd yng Nghymru hyd yn oed yn fwy lliwgar, cyfeillgar a difyr. Mae'n helpu i roi rhagor o resymau i bobl fwynhau Marchnad Abertawe, sydd â dros 100 o stondinau sy'n cynnig amrywiaeth eang o gynnyrch ffres, lleol a thraddodiadol o Gymru. Roedd hi'n anodd dewis enillwyr y gystadleuaeth gan fod y safon mor uchel - ond roeddwn i'n meddwl bod Country Quality Meats a Iokasti's yn sefyll allan."
