Pêl-droed
Mae nifer o gyfleoedd i ddechrau chwarae pêl-droed yn Abertawe. Cymerwch gip ar ble gallwch chwarae yn y tabl isod, hefyd mae Futsal a phêl-droed cerdded ar gael.
Futsal
Mae Futsal yn gêm bêl-droed gyffrous a chyflym gyda thimau bach sy'n cael ei chwarae ar draws y byd ac mae wedi'i chydnabod yn swyddogol gan UEFA a FIFA.
Mae Futsal yn ffordd wych i chwaraewyr ifanc ddatblygu gan ei bod yn darparu nifer o gyfleoedd i reoli'r bêl ac i ymarfer technegau a sgiliau. Er bod y gêm yn wahanol i 11 bob ochr mae nifer o fuddion Futsal yn gallu cael eu trosglwyddo i'r gêm 11 bob ochr, yn enwedig gwneud penderfyniadau dan bwysau, egwyddorion ymosod ac amddiffyn sy'n gwneud y gêm yn ffordd ddefnyddiol iawn o ddatblygu.
Chwaraeodd nifer o chwaraewyr gorau'r byd Futsal yn eu hieuenctid ac maent yn dweud bod y gêm wedi cefnogi eu datblygiad o ran pêl-droed; roedd chwaraewyr o safon Pele, Zico, Ronaldinho, Kaka, Lionel Messi i enwi ond ychydig o arwyr De America yn chwarae ac yn mwynhau Futsal. Ond nid yw Futsal wedi helpu sêr pêl-droed De America yn unig, ar y llwyfan Ewropeaidd mae Cristiano Ronaldo, Deco, Xavi, Fabregas ymhlith nifer y bobl eraill sydd wedi chwarae Futsal i ddatblygu eu sgiliau.
Rhowch gynnig arni yng Nghanolfan Hamdden Treforys - Freedom LeisureYn agor mewn ffenest newydd Ffoniwch 01792 797082 am fwy o wybodaeth.
Pêl-droed Cerdded
Os oeddech yn meddwl bod eich dyddiau chwarae pêl-droed wedi dod i ben, meddyliwch eto! Mae pêl-droed cerdded, fersiwn araf o'r gêm boblogaidd ar gyfer pobl dros 50 oed, wedi cyrraedd Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt. Nod pêl-droed cerdded yw helpu pobl i gadw ffordd actif o fyw er gwaethaf eu hoedran, yn ogystal â helpu pobl sydd wedi gorfod rhoi'r gorau i chwarae pêl-droed o ganlyniad i anaf i ailafael ynddi. Fel y mae'r enw'n awgrymu, mae pêl-droed cerdded yn gêm ddigyswllt a bydd unrhyw un sy'n gwibio, yn rhedeg neu'n loncian pan fydd y bêl yn cael ei chwarae'n cael eu cosbi, a rhoddir cic am ddim i'r tîm arall.
Am fwy o fanylion, ffoniwch Ganolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt - Freedom LeisureYn agor mewn ffenest newydd ar 01792 235040.
Ble gallaf chwarae pêl-droed yn Abertawe?
Yn eich canolfan hamdden a chwaraeon leol
Cysylltwch â'r ganolfan yn uniongyrchol am wybodaeth am argaeledd meysydd a phrisiau.
- Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt - Freedom LeisureYn agor mewn ffenest newydd 5 bob ochr dan do - 01792 235040
- Canolfan Hamdden Cefn Hengoed - Freedom LeisureYn agor mewn ffenest newydd 5 bob ochr dan do a maes awyr agored - 01792 798484
- Canolfan Hamdden Treforys - Freedom LeisureYn agor mewn ffenest newydd 5 bob ochr a maes astro turf awyr agored - 01792 797082
- Canolfan Hamdden Penlan - Freedom LeisureYn agor mewn ffenest newydd 5 bob ochr dan do - 01792 588079
- Canolfan Hamdden Penyrheol - Freedom LeisureYn agor mewn ffenest newydd 5 bob ochr dan do - 01792 897039
- Canolfan Chwaraeon Pentrehafod a Pwll Nofio 5 bob ochr dan do - 01792 588079
- Pontarddulais Leisure Centre 5 bob ochr dan do - 01792 885560
- Canolfan Chwaraeon Elba - Freedom LeisureYn agor mewn ffenest newydd Meysydd pêl-droed i bobl hŷn a phlant - 01792 874424
Yn eich parc neu gaeau chwarae lleol
Am fwy o wybodaeth am gyfleusterau yn eich parc lleol neu i archebu maes, ffoniwch 01792 635411.
| Cae pêl-droed hyn | Cae pêl-droed iau | Cae pêl-droed mini | |
|---|---|---|---|
| Ashlands | 1 | 2 | |
| Bandfield | 1 | ||
| Parc Bonymaen | 1 | 1 | |
| Melin Cadle | 1 | ||
| Parc Coed Bach | 1 | ||
| Parc Coed Gwilym | 2 | 1 | |
| Parc a Chaeau Chwarae Cwm Level | 2 | ||
| Parc Dyfnant | 6 | ||
| Parc Pentre'r Ardd | 1 | ||
| Gors | 1 | 2 | |
| Graig y Coed | 1 | ||
| Pengelli | 1 | ||
| Parc Halfway | 1 | ||
| Parc Heol Las | 5 | ||
| Meysydd Chwarae Brenin Siôr V (Heol y Mwmbwls) | 7 | 1 | 5 |
| Parc Maesteg, St Thomas | 1 | ||
| Mynydd Newydd (gan gynnwys Ysgol Bryn Tawe) | 11 | 1 | 6 |
| Parc Williams | 1 | 2 | |
| Parc y Werin | 1 | 2 | |
| Ysgol Pentrehafod | 1 | ||
| Ysgol Gyfun Pontarddulais | 1 | ||
| Parc Pontlliw | 1 | ||
| Caeau Chwarae Tir Canol | 3 | 1 | |
| Trallwn | 2 | 3 | |
| Parc Underhill | 3 | 2 | |
| Parc Waunarlwydd | 1 | ||
| Parc Ynystawe | 2 | ||
| Ardal Gêmau Amlddefnydd Townhill | 2 |
Gwybodaeth bellach
Os hoffech gymryd rhan mewn pêl-droed, ond bod angen mwy o wybodaeth bellach arnoch, ffoniwch Rob Thomas, Swyddog Datblygu Pêl-droed ar 01792 635445 neu e-bostiwch rob.thomas2@abertawe.gov.uk.
