Chwilio'r wefan
English
Phone

Archebu llyfr

Rydym bellach yn cynnig gwasanaeth 'ffonio a chasglu' yn sawl un o'n llyfrgelloedd ar gyfer pobl sydd am fenthyca llyfrau.

Gallwch hefyd ffonio i drefnu i ddychwelyd eitemau i'r llyfrgelloedd hyn. Peidiwch â cheisio glanhau llyfrau llyfrgell eich hun - nid yw hyn yn angenrheidiol oherwydd y mesurau cwarantin a thrin yn ddiogel sydd ar waith yn y llyfrgell. Bydd y mesurau hyn hefyd yn cynyddu'r amser o ddychwelyd i ryddhau llyfr o gyfrif llyfrgell.

Gallwch fenthyca hyd at 10 o eitemau am 3  wythnos  - er caiff eich benthyciadau eu hadnewyddu'n awtomatig wrth i'r llyfrgell aros ar gau, fel na fyddwch yn cronni unrhyw daliadau am ddychwelyd eitemau'n hwyr.

Cofiwch, gallwch lawrlwytho e-lyfrau ac e-lyfrau llafar ar-lein o hyd.

 

Ble gallaf archebu/gasglu fy llyfrau?

Ffoniwch i drefnu archeb yn y llyfrgell o'ch dewis:

Llyfrgell Ganolog Abertawe (ar agor) - 01792 636464

Llyfrgell Gorseinon (ar agor) - 01792 516780

Llyfrgell Treforys (ar agor) - 01792 516770

Llyfrgell Ystumllwynarth (ar agor) - 01792 368380

Llyfrgell Brynhyfryd (ar agor) - 01792 650953

Llyfrgell Sgeti (ar agor) - 01792 202024

Llyfrgell Penlan (ar agor) - 01792 584674

Llyfrgell Pennard (ar agor) - 01792 233277

Llyfrgell Llansamlet (ar agor) - 01792 771652

Llyfrgell Clydach (ar agor) - 01792 843300

Llyfrgell Townhill (ar agor) - 01792 512370

Llyfrgell Tregŵyr (ar agor) - 01792 873572

Llyfrgell Cilâ (ar agor) - 01792 516820

Llyfrgell Pontarddulais (ar agor) - 01792 882822 

Gellir dod o hyd i'r manylion cyswllt llawn a'r amserau agor drwy glicio ar y dolenni ar gyfer pob llyfrgell.

Bydd slotiau casglu ar gael yn ystod yr amserau agor. Byddwch yn cael diwrnod ac amser i gasglu'ch archeb pan fyddwch yn ffonio.

I breswylwyr nad ydynt yn gallu cyrraedd y llyfrgelloedd sy'n cynnig y gwasanaeth 'Ffonio a Chasglu' oherwydd rhesymau iechyd neu symudedd, siaradwch ag aelod o staff i weld a allwn helpu mewn ffordd arall.

Darllenwch ragor am ein gwasanaeth cludo i'r cartref

Fel dewis amgen i ffonio i gyflwyno cais, gall cwsmeriaid gyflwyno'u cais gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein ganlynol. Yna byddwn yn cysylltu â chi gan ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych ar y ffurflen hon i drefnu apwyntiad i chi gasglu'ch eitemau o'r llyfrgell o'ch dewis.

Request online welsh button
Archebu llyfr ar-lein

 

Beth fydd ei angen arnoch wrth archebu

Wrth gysylltu â'r llyfrgell i ofyn am eitemau, gofynnir i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

  • rhif eich cerdyn llyfrgell a'ch rhif ffôn
  • y llyfrau yr hoffech chi eu benthyca/eich dewisiadau. Gallai hyn fod yn ddetholiad o'ch hoff awduron/genres neu rai teitlau llyfrau penodol.

Gallwch chwilio drwy Gatalog Llyfrgelloedd Abertawe i ddewis eitemau o hyd.

Bydd staff y llyfrgell yn dewis llyfrau ar eich cyfer ac yn rhoi dyddiad ac amser i chi er mwyn i chi ddod i'r llyfrgell. Bydd staff yn gwneud eu gorau i fodloni'ch gofynion, ond cofiwch efallai y bydd rhai o'r llyfrau mwyaf poblogaidd ar fenthyg o hyd oherwydd y sefyllfa cyfyngiadau symud bresennol. Gall oedi gan gyflenwyr hefyd olygu na fydd rhai llyfrau newydd ar gael ar hyn o bryd.

Os nad ydych yn aelod o Lyfrgelloedd Abertawe, ymaelodi ar-lein i fod yn aelod o'r llyfrgell, neu yn y llyfrgell.

 

Dychwelyd llyfrau

Gallwch ddychwelyd eich llyfr/llyfrau i unrhyw un o'r llyfrgelloedd a restrir uchod yn ystod eu horiau agor. Does dim angen i chi wneud apwyntiad.

Os oes gennych unrhyw eitemau ar fenthyg ar hyn o bryd ac ni allwch gyrraedd unrhyw un o'r llyfrgelloedd sydd ar agor byddwn yn eu hadnewyddu'n awtomatig i chi. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich cyfrif, cysylltwch â ni yn llinelllyfrgelloedd@abertawe.gov.uk.

 

Mesurau diogelwch

Er diogelwch cwsmeriaid a staff, bydd cyfyngiadau angenrheidiol ar waith.

Bydd angen i gwsmeriaid hefyd ddilyn y mesurau diogelwch sydd ar waith ym mhob lleoliad, sy'n adlewyrchu canllawiau cyfredol y Llywodraeth ynghylch rheoli haint Covid-19. Peidiwch ag ymweld â'r llyfrgell os ydych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd yn hunanynysu neu'n dangos unrhyw symptomau COVID-19.

Rydym yn dilyn arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar leihau'r risg o groeshalogi drwy roi'r holl lyfrau i'r ochr am 72 awr. 

Wrth ddod i'r llyfrgell, dilynwch y trefniadau cadw pellter cymdeithasol.

O ddydd Llun 14 Medi bydd hi'n orfodol i wisgo mygydau wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do gan gynnwys llyfrgelloedd (mae eithriadau'n berthnasol i bobl benodol). Ni ddarperir mygydau wyneb yn unrhyw un o'n llyfrgelloedd felly bydd angen i chi ddod â'ch mwgwd eich hun.

Mae hylif diheintio dwylo ar gael i bawb ei ddefnyddio.

I leihau cyswllt, bydd eich llyfrau'n barod ac yn aros i chi yn nerbynfa'r llyfrgell.

Archebu llyfr ar-lein

Fel dewis amgen i ffonio i gyflwyno cais, gall cwsmeriaid gyflwyno'u cais gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein ganlynol.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM