Talu’ch bil treth Asesiad Syml
Rhaid i chi dalu’ch bil treth Asesiad Syml os ydych wedi cael llythyr oddi wrth Gyllid a Thollau EM (CThEM).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Ffordd o dalu Treth Incwm nad oedd modd ei didynnu’n awtomatig o’ch incwm yw Asesiad Syml. Gall hon fod yn dreth sydd arnoch o flwyddyn dreth flaenorol neu ar eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:
- gwneud taliad llawn, neu randaliad, o’ch bil treth Asesiad Syml gyda cherdyn debyd neu gerdyn credyd cwmni
- gweld taliadau rydych eisoes wedi eu gwneud
- cael gwybod faint sydd ar ôl gennych i’w dalu
- gwirio’ch dyddiad cau ar gyfer talu
- gweld unrhyw newidiadau i’ch cyfrifiad Asesiad Syml
- cysylltu â CThEM os oes gennych broblem gyda’ch bil
Os ydych o’r farn bod unrhyw wybodaeth yn y llythyr yn anghywir, neu ni allwch dalu’ch bil mewn pryd, rhaid i chi gysylltu â CThEM cyn pen 60 diwrnod.
Dulliau eraill o dalu
Os ydych yn gwybod y swm sydd angen i chi ei dalu neu os nad ydych eisiau mewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein CThEM, gallwch dalu drwy’r dulliau canlynol:
- bancio ar-lein neu dros y ffôn
- cerdyn debyd personol neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein
- siec
Bydd angen eich Rhif Cyfeirnod y Tâl arnoch pan fyddwch yn talu. Bydd hwn i’w weld ar eich llythyr Asesiad Syml.
Talu drwy wasanaeth bancio ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch dalu drwy ddefnyddio gwasanaethau bancio ar-lein neu dros y ffôn, Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs.
Fel arfer, mae’n cymryd hyd at 3 diwrnod gwaith i’ch taliad ddod i law CThEM. Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud eich taliad.
| Cod didoli | Rhif y cyfrif | Enw’r cyfrif |
|---|---|---|
| 08 32 10 | 12001020 | HMRC Shipley |
Os ydych yn talu o gyfrif tramor
Defnyddiwch Rif Cyfrif Banc Rhyngwladol CThEM (IBAN):
| Cod Adnabod Banc (BIC) | Rhif y cyfrif (IBAN) | Enw’r cyfrif |
|---|---|---|
| BARCGB22 | GB03BARC20114783977692 | HMRC Shipley |
Talu drwy gerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Gallwch dalu ar-lein â cherdyn debyd neu gerdyn corfforaethol.
Bydd CThEM yn derbyn eich taliad ar y dyddiad pan wnewch y taliad, nid y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif-gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol.
Talu â siec
Gallwch dalu â siec drwy’r post. Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EM yn unig’ a’i hanfon i:
CThEM/HMRC
Direct
BX5 5BD
Ysgrifennwch eich Rhif Cyfeirnod y Tâl ar gefn y siec – bydd hwn i’w weld ar eich llythyr Asesiad Syml.
Fel arfer, mae’n cymryd hyd at 3 diwrnod gwaith i’ch taliad ddod i law CThEM.