Sally Dixon Cyfarwyddwr anweithredol
Mae Sally Dixon yn dod â phrofiad Adnoddau Dynol a newid i’r Bwrdd, gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y cwmni gwasanaethau proffesiynol PwC, yn cynghori cleientiaid ar sut i ymdrin â materion yn ymwneud â phobl yn ystod adeg o newid, yn enwedig yn ystod uno a chaffael.
Mae hi’n actiwari pensiynau cymwysedig ac yn Aelod Siartredig o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.
Mae Sally yn gyfarwyddwr anweithredol ar gyfer St Martin in the Fields Ltd hefyd ar hyn o bryd, sef adain fasnachol yr eglwys honno, a bu’n aelod o Gyngor ac Ysgrifennydd Anrhydeddus y Sefydliad Actiwarïaid, fel yr oedd gynt, yn y gorffennol.
