Pontio’r DU

Mae’r DU wedi gadael yr UE ac mae’r cyfnod pontio ar ôl Brexit yn dod i ben eleni. Gwnewch rywbeth nawr i baratoi ar gyfer y rheolau newydd o fis Ionawr 2021 ymlaen.

Cymrwch y camau a chofrestru ar gyfer negeseuon e-bost

Atebwch ychydig o gwestiynau er mwyn cael rhestr bersonol o gamau gweithredu ar eich cyfer chi, eich teulu a’ch busnes. Yna, cofrestrwch i gael yr wybodaeth ddiweddaraf dros e-bost pan fydd pethau’n newid.

  • Gwiriwch
  • Newidiwch
  • Ewch

Dechrau newydd y DU: Ymlaen â ni

Mae’r DU yn gadael marchnad sengl ac undeb tollau’r UE, a bydd diwedd y cyfnod pontio yn effeithio ar ddinasyddion, busnesau a theithio i’r UE ac oddi yno.

Gwyliwch y fideo i wybod beth fydd 2021 yn ei olygu i chi.

Gwelwch y trawsgrifiad fideo

Ar y 1af o Ionawr, bydd y Deyrnas Unedig yn adennill ei hannibyniaeth wleidyddol ac economaidd ac yn gallu dechrau cysylltiadau masnachol gyda’r UE a gweddill y byd.

Gall dinasyddion a busnesau wirio’r hyn y mae angen iddynt wneud i baratoi ar gyfer y newidiadau a chyfleodd sydd i ddod fel cenedl sofran.

I fusnesau, mae hyn yn cynnwys paratoi ar gyfer ffordd newydd o fasnachu gyda’n partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd.

I unigolion, gall hyn gynnwys cofrestru eich hawliau preswylio.

Camau y gallwch eu cymryd nawr

Camau y gallwch eu cymryd nawr sydd ddim yn ddibynnol ar drafodaethau.

Teithio i’r UE

Gallwch barhau i deithio i’r UE fel arfer yn ystod y cyfnod pontio.

O 1 Ionawr 2021 bydd rheolau newydd i deithio i’r UE, neu i’r Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein.

Dylech wirio beth sydd angen i chi ei wneud er mwyn teithio i Ewrop o 2021 ymlaen

Aros yn y DU os ydych yn ddinesydd o’r UE

Gwiriwch os oes angen i chi gyflwyno cais i’r cynllun setliad os ydych chi, neu’ch teulu, yn dod o’r UE, neu o’r Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein.

Dylech wirio beth rydych angen ei wneud i aros yn y DU

Byw a gweithio yn yr UE

Mae byw a gweithio mewn gwlad yr UE yn ddibynnol ar y rheolau yn y wlad honno.

Efallai bydd angen i chi gofrestru neu gyflwyno cais am breswyliaeth. Dylech chi wirio os ydych chi’n gymwys am ofal iechyd.

Efallai bydd angen i chi gyfnewid eich trwydded yrru DU am drwydded a roddir gan wlad yr UE ble rydych yn byw.

Gwiriwch beth sydd angen i chi wneud yn y wlad yr ydych yn byw ynddi

Paratoi eich busnes

O’r 1af o Ionawr, bydd y broses o fewnforio ac allforio nwyddau yn newid. Dysgwch beth sydd angen i chi wneud i barhau i:

Cyhoeddiadau