Chwilio'r wefan
English

Mae'r profiad o fynd allan yn gwella - ond cadwch yn ddiogel

Bydd caffis, bwytai a bariau'n gallu eich gweini dan do unwaith eto cyn bo hir, ond yr un neges sydd gennym o hyd: Cadwch Abertawe'n ddiogel.

ESR1

Mae llacio cyfyngiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer y pandemig yn golygu y gallai busnesau lletygarwch weini cwsmeriaid dan do o ddydd Llun (3 Awst).

Fodd bynnag, gan fod Coronfeirws ar led o hyd, ni fydd pethau'n dychwelyd i'r arfer fel yr oedd cyn y cyfyngiadau symud.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Gallai peidio ag ymddwyn yn gyfrifol neu beidio â dilyn y rheolau adael i'r feirws ddod yn ôl a gallai arwain at ailgyflwyno cyfyngiadau symud fel y maent mewn rhannau eraill o'r DU.

"Felly byddwch yn gyfrifol ac arhoswch yn ddiogel!"

Mae gwahaniaethau mawr i'r cyfnod cyn y cyfyngiadau symud a bydd y rhain yn berthnasol ddydd Llun ac am y dyfodol rhagweladwy.

 

Wedi'i bweru gan GOSS iCM