Treth Incwm
Trosolwg
Treth y talwch ar eich incwm yw Treth Incwm. Nid yw’n rhaid i chi dalu treth ar bob math o incwm.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Rydych yn talu treth ar bethau fel:
- arian a enillir gennych o gyflogaeth
- elw a wneir gennych os ydych yn hunangyflogedig - gan gynnwys o wasanaethau yr ydych yn eu gwerthu drwy wefennau neu apiau
- rhai budd-daliadau’r wladwriaeth
- y rhan fwyaf o bensiynau, gan gynnwys pensiynau’r Wladwriaeth, pensiynau cwmni, pensiynau personol a blwydd-daliadau ymddeol
- incwm rhent (oni bai eich bod yn landlord sy’n byw yn y cartref ac yn cael llai na’r terfyn ar gyfer rhentu ystafell)
- buddiannau a gewch yn sgil eich swydd
- incwm o ymddiriedolaeth
Nid ydych yn talu treth ar bethau fel:
- llog ar gynilion o dan eich lwfans cynilion
- y £1,000 cyntaf o’r incwm a gewch o ganlyniad i hunangyflogaeth – dyma eich ‘lwfans masnachu’
- y £1,000 cyntaf o’r incwm a gewch o eiddo y rhowch ar osod (oni bai eich bod yn defnyddio’r Cynllun Rhentu Ystafell)
- incwm o gyfrifon sy’n rhydd o dreth, fel Cyfrifon Cynilo Unigolyn (ISAs) a Thystysgrifau Cynilion Cenedlaethol
- difidendau o gyfranddaliadau cwmni o dan eich lwfans difidendau
- rhai budd-daliadau’r wladwriaeth
- gwobrau bondiau premiwm neu’r Loteri Genedlaethol
- rhent a gewch gan letywr yn eich cartref sy’n is na’r terfyn ar gyfer rhentu ystafell
Lwfansau a rhyddhad Treth Incwm
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn y DU yn cael Lwfans Personol, ar ffurf incwm sy’n rhydd o dreth. Dyma swm yr incwm y gallwch ei dderbyn cyn bod yn rhaid i chi dalu treth.
Yn ogystal, gellir gostwng swm y dreth a delir gennych, drwy gyfrwng rhyddhad treth, os ydych yn gymwys i’w dderbyn.