Cyfnod pontio’r DU

Mae’r DU wedi gadael yr UE ac mae’r cyfnod pontio ar ôl Brexit yn dod i ben eleni. Gwnewch rywbeth nawr i baratoi ar gyfer y rheolau newydd o fis Ionawr 2021 ymlaen.

Gweithredu a chofrestru ar gyfer negeseuon e-bost

Atebwch rywfaint o gwestiynau er mwyn cael rhestr bersonol o gamau gweithredu ar eich cyfer chi, eich teulu a’ch busnes. Yna, cofrestrwch i gael yr wybodaeth ddiweddaraf dros yr e-bost pan fydd pethau’n newid.

  • Gwirio
  • Newid
  • Mynd

Camau y gallwch eu cymryd nawr

Camau y gallwch eu cymryd nawr sydd ddim yn ddibynnol ar drafodaethau.

Teithio i’r UE

Gallwch barhau i deithio i’r UE fel arfer yn ystod y cyfnod pontio.

O 1 Ionawr 2021 bydd rheolau newydd i deithio i’r UE, neu i’r Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein.

Dylech wirio beth sydd angen i chi ei wneud er mwyn teithio i Ewrop o 2021 ymlaen

Aros yn y DU os ydych yn ddinesydd o’r UE

Gwiriwch os oes angen i chi gyflwyno cais i’r cynllun setliad os ydych chi, neu’ch teulu, yn dod o’r UE, neu o’r Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein.

Dylech wirio beth rydych angen ei wneud i aros yn y DU

Byw a gweithio yn yr UE

Mae byw a gweithio mewn gwlad yr UE yn ddibynnol ar y rheolau yn y wlad honno.

Efallai bydd angen i chi gofrestru neu gyflwyno cais am breswyliaeth. Dylech chi wirio os ydych chi’n gymwys am ofal iechyd.

Efallai bydd angen i chi gyfnewid eich trwydded yrru DU am drwydded a roddir gan wlad yr UE ble rydych yn byw.

Gwiriwch beth sydd angen i chi wneud yn y wlad yr ydych yn byw ynddi

Paratoi eich busnes

O 1 Ionawr 2021 ymlaen, bydd angen i chi wneud datganiadau tollau i symud nwyddau i mewn i’r UE ac allan. Dylech wneud y canlynol:

Cyhoeddiadau