Mae’r DU wedi gadael yr UE
Darganfyddwch beth mae hyn yn ei olygu i chi.
Y cyfnod pontio
Bydd cyfnod pontio tan ddiwedd 2020 tra bod y DU a’r UE yn trafod trefniadau ychwanegol.
Bydd y rheolau cyfredol ar fasnach, teithio a busnes ar gyfer y DU a’r UE yn parhau i fod yn berthnasol yn ystod y cyfnod pontio.
Bydd rheolau newydd yn dod i rym ar 1 Ionawr 2021.
Dylech baratoi nawr a thanysgrifio i ddiweddariadau ebost am unrhyw drefniadau ychwanegol.
Beth allwch chi wneud nawr
Camau y gallwch eu cymryd nawr sydd ddim yn ddibynnol ar drafodaethau.
Paratoi eich busnes
Ar ôl 1 Ionawr 2021, bydd angen i chi wneud datganiadau tollau i symud nwyddau i mewn ac allan o’r UE. Dylech chi:
- gael rhif EORI os nad oes gennych un yn barod
- penderfynu sut yr hoffech wneud datganiadau tollau ac os oes angen i chi gael rhywun i ddelio â’r tollau ar eich rhan.
Aros yn y DU os ydych yn ddinesydd o’r UE
Gwiriwch os oes angen i chi gyflwyno cais i’r cynllun setliad os ydych chi, neu’ch teulu, yn dod o’r UE, neu o’r Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein.
Byw a gweithio yn yr UE
Mae byw a gweithio mewn gwlad yr UE yn ddibynnol ar y rheolau yn y wlad honno.
Efallai bydd angen i chi gofrestru neu gyflwyno cais am breswyliaeth. Dylech chi wirio os ydych chi’n gymwys am ofal iechyd.
Efallai bydd angen i chi gyfnewid eich trwydded yrru DU am drwydded a roddir gan wlad yr UE ble rydych yn byw.
Gwiriwch beth sydd angen i chi wneud yn y wlad yr ydych yn byw ynddi
Holl wybodaeth y cyfnod pontio
Pori’r holl wybodaeth sy’n berthnasol i’r cyfnod pontio