Mae’r DU a’r UE wedi cytuno ar gytundeb ymadael

Beth sy’n digwydd nesaf

Mae angen i’r DU a’r UE gadarnhau’r cytundeb ymadael erbyn 31 Ionawr 2020.

Bydd cyfnod gweithredu tan 31 Rhagfyr 2020 tra bydd yr UE a’r DU yn trafod trefniadau newydd.

Gallwch chi, eich teulu neu’ch busnes gymryd rhai camau nawr i baratoi am ymadawiad y DU o’r UE.

Beth allwch wneud nawr

Camau y gallwch eu cymryd nawr sydd ddim yn ddibynnol ar drafodaethau.

Paratoi eich busnes ar gyfer Brexit

Aros yn y DU os ydych yn ddinesydd yr UE

Gwiriwch os oes angen i chi gyflwyno cais am y cynllun preswylio os ydych chi neu’ch teulu yn dod o’r UE, neu o’r Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein.

Gwiriwch beth sydd angen i chi wneud i aros yn y DU

Byw a gweithio yn yr UE

Mae byw a gweithio mewn gwlad yn yr UE yn ddibynnol ar reolau’r wlad honno.

Efallai bydd angen i chi gyflwyno cais am breswyliaeth. Dylech wirio os ydych yn gymwysedig am ofal iechyd.

Efallai bydd angen i chi gyfnewid eich trwydded yrru am drwydded a roddwyd gan wlad yr UE ble rydych yn byw.

Gwiriwch beth sydd angen i chi wneud yn y wlad yr ydych yn byw