Gwiriwch beth sydd angen i chi wneud os ydych yn:
Mae’r DU a’r UE wedi cytuno ar gytundeb ymadael
Beth sy’n digwydd nesaf
Mae angen i’r DU a’r UE gadarnhau’r cytundeb ymadael erbyn 31 Ionawr 2020.
Bydd cyfnod gweithredu tan 31 Rhagfyr 2020 tra bydd yr UE a’r DU yn trafod trefniadau newydd.
Gallwch chi, eich teulu neu’ch busnes gymryd rhai camau nawr i baratoi am ymadawiad y DU o’r UE.
Beth allwch wneud nawr
Camau y gallwch eu cymryd nawr sydd ddim yn ddibynnol ar drafodaethau.
Paratoi eich busnes ar gyfer Brexit
Aros yn y DU os ydych yn ddinesydd yr UE
Gwiriwch os oes angen i chi gyflwyno cais am y cynllun preswylio os ydych chi neu’ch teulu yn dod o’r UE, neu o’r Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein.
Byw a gweithio yn yr UE
Mae byw a gweithio mewn gwlad yn yr UE yn ddibynnol ar reolau’r wlad honno.
Efallai bydd angen i chi gyflwyno cais am breswyliaeth. Dylech wirio os ydych yn gymwysedig am ofal iechyd.
Efallai bydd angen i chi gyfnewid eich trwydded yrru am drwydded a roddwyd gan wlad yr UE ble rydych yn byw.
Gwiriwch beth sydd angen i chi wneud yn y wlad yr ydych yn byw
Holl wybodaeth Brexit
Pori’r holl wybodaeth sy’n gysylltiedig â Brexit: