Mae Microsoft 365 Education AM DDIM i ddysgwyr ac athrawon

Gall athrawon a dysgwyr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru lawrlwytho a gosod yr offer diweddaraf gan Microsoft Office, gan gynnwys Word, Excel a PowerPoint yn ogystal â Minecraft: Education Edition yn rhad ac am ddim ar hyd at 15 o ddyfeisiadau – drwy Hwb.
Beth sydd wedi'i gynnwys?
Gallwch osod y rhaglenni Microsoft Office hyn am ddim ar eich dyfeisiau personol (ar hyd at 5 gliniadur, cyfrifiadur bwrdd gwaith, dyfais tabled neu ffôn clyfar).
Office ar gyfer Windows:
Word, Excel, PowerPoint, Publisher, Access, OneNote, Outlook a Skype for Business
Office ar gyfer Mac:
Word, Excel, PowerPoint, OneNote ac Outlook
Apiau Office ar gyfer iPhone, iPad, dyfeisiadau Android neu Windows Phone 10:
Word, Excel, PowerPoint, OneNote, Outlook, Planner, Sway, Teams, To-do a llawer mwy.
Mae Word yn eich helpu i fynegi’n fedrus - ar unrhyw adeg, yn unrhyw le a chydag unrhyw un. Dyma fersiwn newydd, modern o’r rhaglen enwog sydd wedi ei llunio ar gyfer creu dogfennau â sglein arnynt.

Excel ar gyfer taenlenni treiddgar – ar unrhyw adeg, yn unrhyw le a chydag unrhyw un. Gwedd fodern ar Excel sydd ag offer newydd i’ch helpu i ddefnyddio’r data i’r eithaf.

PowerPoint ar gyfer adrodd straeon yn well – ar unrhyw adeg, yn unrhyw le a chydag unrhyw un. Gwedd newydd, fodern ar gymhwysiad Powerpoint, sy’n gyfarwydd i bawb, ac yn ddefnyddiol i greu a rhannu cyflwyniadau sy’n siŵr o greu effaith.

Llyfr nodiadau i athrawon a dysgwyr, sydd wedi’i drefnu yn adrannau ac yn dudalennau. Mae OneNote yn cadw’ch holl nodiadau ar draws pob dyfais, ac yn gadael i chi fewnosod testun, ysgrifen, clipiau sain, lluniau a dolenni.

Fersiwn ar-lein o’ch e-bost a’ch calendr, sydd ar gael ar unrhyw ddyfais. Does dim rhaid poeni am ddiffyg lle yn eich mewnflwch mwyach gyda’r blwch e-byst 50Gb.
System reoli diogelwch well wedi ei hymgorffori i ddiogelu’ch data sensitif.

Yn Publisher, mae offer syml yn ei gwneud yn hawdd i greu argraff weledol drawiadol. Defnyddiwch destun, ffotograffau a dolenni i wneud cyhoeddiadau proffesiynol yn rhai personol. Cyhoeddwch mewn ffordd sy’n gweddu orau i’ch cynulleidfa – e-bost, PDF, XPS neu brintiadau o ansawdd uchel.

Mae Access yn eich helpu i greu, addasu a rhannu apiau cronfeydd data, sydd wedi’u haddasu i’ch anghenion chi.

Mae Minecraft: Education Edition yn gêm mewn byd rhithiol, sy’n hybu creadigrwydd, cydweithio a datrys problemau mewn amgylchedd y gallwch ymgolli ynddi a’ch dychymyg yw’r unig ffin.

Gallwch ddefnyddio'r offer cwmwl Microsoft hwn ar unrhyw ddyfais sydd wedi'i galluogi ar gyfer porwr.
Mae Office 365 ar gael i holl staff ysgol, defnyddwyr Hwb mewn awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol, llywodraethwyr, athrawon cyflenwi a dysgwyr fel rhan o Wasanaethau Ychwanegol Hwb.
Eich ffeil bersonol sy’n rhoi storfa ar-lein yn rhad ac am ddim i chi. Gallwch gael mynediad ati o unrhyw le. Storiwch, rhannwch a chysonwch ffeiliau’n ddidrafferth rhwng yr ysgol a’r cartref. Mae’n cadw’ch gwaith yn ddiogel ac yn creu fersiwn wrth gefn yn awtomatig.


Canolfan ddigidol ddiogel ar gyfer cydweithio, dosbarthiadau a chyfarfodydd. Crëwch sianeli a ffurfiwch dimau i rannu ffeiliau a chydweithio ar unrhyw ddyfais. Mae modd i staff siarad ar-lein mewn grwpiau neu un i un.

Cymhwysiad i ddweud stori ddigidol, sy’n cyflwyno syniadau ar y sgrin mewn ffordd ryngweithiol a sythweledol Mae’n hawdd ymgorffori testun a fideo i gyflwyniad ar-lein. Pecyn syml i ddysgwyr ac athrawon allu creu eu cynnwys eu hunain.




Pecyn syml ysgafn sy’n gadael i chi greu ffurflenni, cwis neu arolygon ar-lein yn gyflym. Casglwch ymatebion ar y pryd ac edrychwch ar siartiau awtomatig er mwyn delweddu’ch data.
Dim mwy o ffurflenni papur!



Rhestr o bethau i’w gwneud wedi’i rhannu ar-lein y gellir ei rannu, sy’n caniatáu i chi wneud cynlluniau, trefnu a neilltuo tasgau. Ap rheoli prosiect syml sy’n cyd–fynd ag Office 365.


Sut i gael Office gartref?
Rhybudd
Dylech ddadosod unrhyw fersiwn arall o Microsoft Office sydd ar eich cyfrif cyn cychwyn y broses o osod Microsoft Office. Sicrhewch bod gennych ganiatâd cyn cychwyn.
Ar Gyfrifiaduron Personol a Mac
- Mewngofnodwch i Hwb ar eich dyfais bersonol.
- Lansiwch Office 365.
- Gosod Office.
Gellir cael arweiniad pellach yn y Ganolfan Gymorth ar Hwb.
Ar lechi neu ffonau
Mewngofnodwch i apiau ar eich ffôn symudol/llechen gyda'ch enw defnyddiwr (e.e. BloggsJ@Hwbcymru.net) a’ch cyfrinair ar gyfer Hwb.
Gwybodaeth
- Rhaid i ganiatâd y dysgwyr fod wedi ei gofnodi ar Hwb.
- Mae’n rhaid i staff gael trwydded wedi ei dyroddi iddynt.
Gofynnwch am fanylion gan eich ysgol.
Sut i gael Minecraft: Education Edition gartref
Ar Gyfrifiaduron Personol a Mac
- Ewch i education.minecraft.net
- Dewiswch y tab Support
- Lawrlwythwch a mewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr (e.e. BloggsJ@Hwbcymru.net) a’ch cyfrinair ar gyfer Hwb.
Gellir cael arweiniad pellach yn y Ganolfan Gymorth ar Hwb
Ar iPad
Lawrlwythwch yr App o'r storfa App Store, a mewngofnodwch gyda’ch cyfrif Hwbcymru.net
Gellir cael gwybodaeth pellach o Minecraft.
Gwybodaeth i rieni a gofalwyr
Er mwyn i'ch teulu elwa o drwydded Microsoft 365 AM DDIM, rhaid i chi neu'ch plentyn (os yw dros 13 oed) ddweud wrth yr ysgol eich bod yn rhoi caniatâd iddynt gael mynediad at Wasanaethau Ychwanegol Hwb. Os ydych chi'n cael trafferth lawrlwytho'r meddalwedd gartref, cysylltwch ag ysgol eich plentyn i ddarganfod sut i roi caniatâd.
Deunyddiau hyrwyddo
- A3 poster i athrawon a theuluoedd - Office drwy Hwb pdf 1.09 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- A4 taflen ddwy ochr - Minecraft: Education Edition trwy Hwb pdf 3.70 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- A4 taflen dwy ochr - Beth ydych chi’n ei gael gyda Microsoft 365 trwy Hwb pdf 1.20 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- A6 taflen pedair tudalen y dudalen - Office a Minecraft trwy Hwb (athrawon a theuluoedd) pdf 2.38 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- A6 taflen pedair tudalen y dudalen - Office a Minecraft trwy Hwb (generig) pdf 2.38 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Baner llorweddol generig (1200 X 200) jpg 153 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Baner llorweddol athrawon a theuluoedd (1200 X 200) jpg 130 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Llun ar gyfer Trydar jpg 252 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Llun ar gyfer cyfryngau cymdeithasol png 293 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath