Perfformwyr ifanc yn awyddus i fod yn rhan o Orymdaith y Nadolig
Bydd pobl ifanc o Abertawe'n rhan o Orymdaith y Nadolig a Chynnau Goleuadau'r Nadolig eleni.
Mae grwpiau drama a dawns lleol ymhlith y rheini sydd wedi derbyn gwahoddiad gan Gyngor Abertawe i wisgo i fyny a diddanu miloedd o wylwyr drwy fod yn rhan o'r orymdaith.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Roeddem wrth ein boddau gyda'r ymateb gan grwpiau drama a dawns ar draws Abertawe - a bydd y rheini a ddewiswyd yn ychwanegu rhywfaint o hud a lledrith eu hunain at yr orymdaith."
Bwriedir cynnal Gorymdaith y Nadolig a Chynnau Goleuadau'r Nadolig 2019 Abertawe rhwng 5pm a 7pm nos Sul, 17 Tachwedd.
Mae'r dyddiadau ar gyfer prif ddigwyddiadau Nadolig Cyngor Abertawe hefyd wedi'u cadarnhau. Dyma nhw:
- Gorymdaith y Nadolig a Chynnau Goleuadau'r Nadolig, canol y ddinas, 5pm tan 7pm, nos Sul 17 Tachwedd.
- Marchnad Stryd y Nadolig, Stryd Rhydychen/Canol y Ddinas, dydd Gwener 15 Tachwedd tan ddydd Sul 22 Rhagfyr.
- Groto Siôn Corn, Stryd Rhydychen - dyddiadau/amserau amrywiol o ddydd Sadwrn 16 Tachwedd i ddydd Sul 22 Rhagfyr.
Bwriedir cynnal Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, a gyflwynir gan Sayers Events ac 11th Hour mewn partneriaeth â'r cyngor, ym Mharc yr Amgueddfa rhwng dydd Gwener 15 Tachwedd a dydd Sul 5 Ionawr.
