Ein mentrau i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru.
Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth
Stephen Chapman yw Cydgysylltydd Atal Caethwasiaeth Cymru. Ei waith yw atal caethwasiaeth yng Nghymru a chydgysylltu cymorth a chefnogaeth i oroeswyr.
Llywodraeth Cymru yw'r unig lywodraeth yn y Deyrnas Unedig sydd â Chydgysylltydd Atal Caethwasiaeth.
Grŵp Arwain Atal Caethwasiaeth Cymru
Mae'r grŵp hwn yn cyfarfod â sefydliadau eraill i fynd i'r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru.
Amcanion y grŵp yw:
- nodi'r lefel caethwasiaeth yng Nghymru
- datblygu protocolau rhannu gwybodaeth a nodi'r hyfforddiant sydd ar gael
- sefydlu Cynllun Cyswllt Cyfathrebu Atal Caethwasiaeth Cymru
- nodi cymorth a chyngor i i ddioddefwyr
Mae Grŵp Arwain Atal Caethwasiaeth Cymru yn helpu sefydliadau i gydweithio er mwyn lleihau caethwasiaeth.
