Defnyddiwch gasgliad i ddiwallu angen y defnyddwyr i grwpio cynnwys ar sail rhywbeth arall heblaw pwnc:
- cyfnod amser; trawsgydymffurfio 2017, trawsgydymffurfio 2018
- cynulleidfa; Cymorth i Brynu – Cymru: pecyn i adeiladwyr a datblygwyr
- math; Ysgolion fel sefydliadau dysgu: astudiaethau achos
- angen arbenigol, gan gynnwys grwpio cynnwys o sawl pwnc gwahanol; Awdurdod Cyllid Cymru: canllawiau technegol
Dilynwch y meini prawf hyn i leihau’r wybodaeth a restrir ar dudalen pwnc. Cyfyngwch y rhestr i ganolbwyntio ar anghenion pwysicaf y defnyddwyr.
Gallwch ychwanegu cynnwys at fwy nag un casgliad.
Peidiwch â chreu casgliad:
- yn hytrach nag is-bwnc; is-bynciau yw ein prif ddull o grwpio cynnwys
- ar gyfer cynnwys na fyddai defnyddwyr ei angen nac yn disgwyl ei weld gyda’i gilydd
- yn hytrach na system rheoli cynnwys
- ar gyfer cyhoeddiad unigol
