Rhandiroedd
Mae gennym 16 safle rhandir: mae 5 ohonynt yn cael eu rheoli gennym ni a 11 gan gymdeithasau rhandir. Yn ogystal, mae 1 safle ar dir preifat sydd hefyd yn cael ei reoli'n breifat.
Safloedd y cyngor
Mae'r safleoedd canlynol yn cael eu rheoli gennym ni:
- Rhandiroedd Teras Seaview, Mount Pleasant
- Rhandiroedd y Grange, West Cross
- Rhandiroedd Norton Isaf, y Mwmbwls
- Rhandiroedd Erw'r Castell, y Mwmbwls
- Rhandiroedd Maes Erw, y Mwmbwls
Y ffi rentu bresennol ar gyfer llain gyfan ar safle a reolir gan y cyngor yw £25 y flwyddyn.
Rhoddir consesiwn 25% i'r ffi rentu os ystyrir rhywun yn 'ddi-gyflog', h.y. myfyriwr amser llawn, yn berson sy'n ddi-waith ac yn cael budd-daliadau, neu'n berson sy'n cael pensiwn.
Hefyd, mae'n rhaid i bob deiliad llain dalu ffi reoli £25. Ni chynigir consesiynau ar y ffi reoli.
Os ydych yn gwybod am broblem ar randir a reolir gan y cyngor sy'n dod i'r amlwg gyda'r hwyr neu ar benwythnos, ffoniwch (01792) 636000. Gallwn fynd i'r afael ag argyfyngau megis dŵr yn gollwng neu goed peryglus.
Sut i gael rhandir

Cofrestru ar gyfer RhandirOs hoffech gael llain ar un o'r safleoedd uchod, cwblhewch y ffurflen ar-lein a chaiff eich manylion cyswllt eu hychwanegu at ein rhestr aros. Byddwn yn cysylltu â chi pan fydd eich enw'n cyrraedd brig y rhestr a bydd llain ar gael ar y safle o'ch dewis.
Lleoliadau
Caiff rhandiroedd a reolir gan y cyngor eu nodi'n goch ar y map. Caiff rhandiroedd a reolir gan gymdeithasau eu nodi'n las (gweler isod am fanylion).
Safleoedd cymdeithasau rhandiroedd
Mae ffïoedd rhentu ar safleoedd a reolir gan gymdeithasau rhandiroedd yn cael eu gosod gan aelodau'r gymdeithas a gallant amrywio o safle i safle. Mae gan safleoedd a reolir gan gymdeithasau rhandir eu rhestrau aros eu hunain. Os hoffech gael llain ar un o'r safleoedd hyn, cysylltwch â'r ysgrifennydd.
Rhandiroedd Heol y Castell
Ysgrifennydd - Geoffrey Cottle
Rheolir Rhandiroedd Heol y Castell yn y Mwmbwls gan gymdeithas randiroedd.
Ffôn: 01792 366903
Manylion llawn Rhandiroedd Heol y Castell
Rhandiroedd Cwmgelli
Ysgrifennydd - Linda Ryan
Rheolir Rhandiroedd Cwmgelli yn Nhreboeth gan gymdeithas randiroedd.
E-bost: ryan361@btinternet.com
Ffôn: 01792 641593
Manylion llawn Rhandiroedd Cwmgelli
Rhandiroedd Eastside
Ysgrifennydd - Rod Rodrigues
Rheolir Rhandiroedd Eastside yn St Thomas gan gymdeithas randiroedd.
Ffôn: 07963 427798
Manylion llawn Rhandiroedd Eastside
Rhandiroedd Stryd Einon
Ysgrifennydd - Peter James
Rheolir Rhandiroedd Stryd Einon yng Ngorseinon gan gymdeithas randiroedd.
E-bost: pljames49@gmail.com
Ffôn: 01792 523893
Manylion llawn Rhandiroedd Stryd Einon
Rhandiroedd Fairfield
Ysgrifennydd – Julie Davies
Rheolir Rhandiroedd Fairfield ym Mayhill gan gymdeithas randiroedd.
E-bost: 2fairfieldallotments@gmail.com
Ffôn: 07825 664824
Manylion llawn Rhandiroedd Fairfield
Rhandiroedd Frederick Place
Ysgrifennydd – Vicky O'Connor
Rheolir Rhandiroedd Frederick Place yn Llansamlet gan gymdeithas randiroedd.
Ffôn: 07812 132197
Manylion llawn Rhandiroedd Frederick Place
Rhandiroedd Tregŵyr
Ysgrifennydd - Penny Simons
Mae Rhandiroedd Tregŵyr yn eiddo preifat ac yn cael eu rheoli'n breifat.
E-bost: simonspenny@yahoo.co.uk
Manylion llawn Rhandiroedd Tregŵyr
Rhandiroedd Heol y Gors
Ysgrifennydd - Andre John
Rheolir Rhandiroedd Heol y Gors yn y Cocyd gan gymdeithas randiroedd.
E-bost: andrejohn@me.com
Ffôn: 07766 027753
Manylion llawn Rhandiroedd Heol y Gors
Rhandiroedd Lôn Mafon
Ysgrifennydd - Wendy Owen
Rheolir Rhandiroedd Lôn Mafon yn Sgeti gan gymdeithas randiroedd.
Ffôn: 01792 950131
Manylion llawn Rhandiroedd Lôn Mafon
Rhandiroedd Lôn Plunch
Sid Wilkes
Rheolir Rhandiroedd Lôn Plunch yn y Mwmbwls gan gymdeithas randiroedd.
Ffôn: 01792 366356
Manylion llawn Rhandiroedd Lôn Plunch
Rhandiroedd Singleton
Ysgrifennydd - David Harry
Rheolir Rhandiroedd Singleton yn Sgeti gan gymdeithas randiroedd.
E-bost: davidcmharry@gmail.com
Manylion llawn Rhandiroedd Singleton
Rhandiroedd Norton Uchaf
Ysgrifennydd - Julia Johnson
Rheolir Rhandiroedd Norton Uchaf yn y Mwmbwls gan gymdeithas randiroedd.
E-bost: juliascottjohnson@gmail.com
Ffôn: 01792 424310
Manylion llawn Rhandiroedd Norton Uchaf
