Talu Cytundeb Setliad TWE

1. Trosolwg

Mae’n rhaid i chi dalu’r dreth ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B sy’n ddyledus o’ch Cytundeb Setliad TWE (PSA) erbyn 22 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y mae’n berthnasol iddi.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Dulliau o dalu

Sicrhewch eich bod yn talu Cyllid a Thollau EM (CThEM) erbyn y dyddiad cau. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosbau a llog os yw’ch taliad yn hwyr.

Talu nawr

Os ydych yn talu drwy’r post, mae’n rhaid i chi dalu erbyn 19 Hydref.

Mae’r amser sydd angen i chi ei ganiatáu’n dibynnu ar eich dull o dalu.

Ni allwch dalu yn Swyddfa’r Post mwyach.

Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf

3 diwrnod gwaith neu fwy

5 diwrnod gwaith

Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEM erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy ddefnyddio Taliadau Cyflymach.

2. Manylion banc ar gyfer bancio ar-lein neu dros y ffôn, CHAPS, Bacs

Gallwch dalu drwy Daliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs i gyfrif Cyllid a Thollau EM (CThEM).

Cod didoli Rhif y cyfrif Enw’r cyfrif
08 32 10 12001020 HMRC Shipley

Cyfeirnod

Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE (PSA) fel y cyfeirnod talu.

Mae’n dechrau gydag X ac mae ar y slip talu anfonodd CThEM atoch. Os nad oes gennych eich rhif PSA, cysylltwch â’r swyddfa sy’n delio â’ch cais.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEM ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, mae taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEM ar yr un diwrnod gwaith os ydych yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, mae taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud eich taliad.

Taliadau tramor

Defnyddiwch y manylion hyn er mwyn talu o gyfrif tramor.

Rhif y cyfrif (IBAN) Cod Adnabod Banc (BIC) Enw’r cyfrif
GB03BARC20114783977692 BARCGB22 HMRC Shipley

Cyfeiriad bancio CThEM yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain / London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

3. Drwy gerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein

Gallwch dalu ar-lein.

Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd angen eich cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE (PSA) arnoch. Mae’n dechrau gydag X ac mae ar y slip talu anfonodd Cyllid a Thollau EM (CThEM) atoch.

Os nad yw’ch rhif PSA gennych, cysylltwch â’r swyddfa CThEM sy’n delio â’ch cais.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Bydd CThEM yn derbyn eich taliad ar y dyddiad pan wnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) – nid y dyddiad pan fydd yn cyrraedd cyfrif CThEM.

Os na allwch dalu eich PSA yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull arall o dalu megis trosglwyddiad banc.

4. Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Gallwch dalu yng nghangen eich banc ag arian parod neu siec. Bydd yn rhaid i chi ddefnyddio slip talu’r Cytundeb Setliad TWE (PSA) a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EM (CThEM).

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EM yn unig’, wedi’i ddilyn gan eich cyfeirnod PSA. Mae’n dechrau gydag X ac mae ar y slip talu.

Bydd CThEM yn derbyn eich taliad ar y dyddiad pan wnewch y taliad (os ydych yn ei dalu o ddydd Llun i ddydd Gwener) ac nid ar y dyddiad pan fydd yn cyrraedd cyfrif CThEM.

5. Debyd Uniongyrchol

Sefydlwch Ddebyd Uniongyrchol drwy gyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EM (CThEM) eich busnes i wneud taliad unigol. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi sefydlu taliad bob tro y byddwch yn talu CThEM drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Defnyddio’ch cyfeirnod

Bydd angen eich cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE (PSA) arnoch. Mae’n dechrau gydag X ac mae ar y slip talu anfonodd CThEM atoch.

Os nad yw’ch rhif PSA gennych, cysylltwch â’r swyddfa CThEM sy’n delio â’ch cais.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.

Os ydych yn talu TWE neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 drwy Ddebyd Uniongyrchol, gwnewch daliad Debyd Uniongyrchol ar wahân ar gyfer eich PSA.

6. Siec drwy’r post

Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EM (CThEM) drwy’r post.

CThEM
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM
Tŷ Thedford
Stryd Fawr
Porthmadog
LL49 9BF

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEM.

Yr hyn i’w gynnwys

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EM yn unig’, wedi’i ddilyn gan eich cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE (PSA). Mae’n dechrau gydag X ac mae ar y slip talu anfonodd CThEM atoch.

Sicrhewch eich bod yn cynnwys y slip talu anfonodd CThEM atoch. Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu at ei gilydd.

Creu slip talu newydd os na allwch ddod o hyd i’ch un chi. Ni allwch ddefnyddio’r slip talu hwn i dalu mewn banc neu gymdeithas adeiladu.

Gallwch gynnwys llythyr ynghyd â’ch taliad er mwyn gwneud cais am dderbynneb oddi wrth CThEM.

7. Gwirio bod eich taliad wedi cyrraedd

Gallwch fwrw golwg dros eich cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu er mwyn cadarnhau bod y taliad wedi gadael eich cyfrif.

Os ydych yn talu drwy’r post, gallwch gynnwys llythyr ynghyd â’ch taliad er mwyn gwneud cais am dderbynneb oddi wrth Gyllid a Thollau EM (CThEM).