Llyn Cychod Singleton
Mae Llyn Cychod Singleton ar waelod Lôn Sgeti rhwng Ysbyty Singleton a Phrifysgol Abertawe, o fewn pellter cerdded i Barc Singleton
Y ogystal â llu o elyrch preswyl mae'r llyn yn gartref i 14 o bedalos draig/alarch, cwrs golff gwallgof 18 twll a lle chwarae antur i blant. Mae pysgota ar gael ar rai adegau o'r flwyddyn.
Prisiau
Golff Gwallgof
11.00am - 5.00pm (tan 6.00pm yn ystod gwyliau haf ysgolion)
Safonol £3.00, Consesiwn £2.50, Pasbort i Hamdden £2.00
Llyn Cychod
Llyn Cychod Singleton yn ailagor ar benwythnos y Pasg ac ac yna bob penwythnos tan hanner tymor a gwyliau'r haf. Yn ystod hanner tymor a gwyliau'r haf bydd y tren tir ar waith bob dydd.
11.00am - 5.00pm (tan 6.00pm yn ystod gwyliau haf ysgolion)
Pedalo â dwy sedd
Safonol £5.00, Consesiwn £3.25, Pasbort i Hamdden £2.50
Pedaloâ phedair sedd
Safonol £7.00, Consesiwn £5.25, Pasbort i Hamdden £3.50
Pysgota
Mae'r llyn hefyd yn cynnwys nifer o bysgod carp, merfogiaid, ysgretennod a rhufellod ac mae tua 10 i 15 llwyfan bysgota ar gael i bysgotwyr. Ond, mae pysgota ar gael ar amserau arbennig yn unig gan fod pedalos yn gweithredu ar y llyn. I gael mwy o wybodaeth a phrisiau am bysgota ar y llyn cychod ac yn Abertawe, ffoniwch Christine Johns ar 01792 635411.
Hygyrchedd
Mae Llyn Cychod Singleton yn hygyrch i bob grŵp anabledd
