Partneriaeth Tirwedd Gŵyr
Mae sefydliadau partner ar draws Gŵyr wedi derbyn cyllid gwerth £1.3m gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer prosiect 4 blynedd sylweddol.
Nod Partneriaeth Tirwedd Gŵyr yw ysbrydoli pobl leol a'u helpu i ofalu am nodweddion arbennig ac unigryw Gŵyr.
Dyma rai o'r prosiectau:
- Saffaris glan môr - archwilio pyllau trai ac addysg amgylcheddol
- Atgyfodi digwyddiadau traddodiadol megis canu gwasael a'r Fari Lwyd
- Cadw systemau amaethyddol canoloesol a geir ar y penrhyn
- Prentisiaethau mewn sgiliau treftadaeth draddodiadol
- Casglu straeon a gwybodaeth hanesyddol am y 189 o longddrylliadau o gwmpas arfordir Gŵyr
- Cofnodi a dehongli hanes diwydiannol a diwylliannol Gŵyr
- Cadwraeth nodweddion naturiol ac adeiledig
Mae'r prosiect wedi derbyn arian gan ffynonellau eraill hefyd:
- Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-13 (sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig);
- Cyfoeth Naturiol Cymru; a'r
- Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

