Bydd angen cyflwyno hysbysiadau ar gyfer Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro ar gyfer Sioe Awyr Cymru ar 6 a 7 Gorffennaf erbyn -
- TEN - 21 Mehefin 2019
- TEN hwyr - 28 Mehefin 2019
Wrth gyflwyno Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro ar gyfer Sioe Awyr 2019, cyflwynwch fanylion lleoliad y digwyddiad ar gynllun arall hefyd. Nid oes angen i hyn fod i raddfa ond bydd angen nodi lleoliad y stondin/bar yn glir.
Ni fydd taliadau ar-lein ar gael rhwng 1.00pm a 4.30pm ddydd Mercher, 26 Mehefin oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol. Os bydd angen i chi wneud taliad brys yn ystod y cyfnod hwn, gellir gwneud hyn yn bersonol yng nghiosgau talu'r Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra.
Hysbysiadau digwyddiad dros dro (TEN)
Gellir defnyddio TEN i awdurdodi gweithgaredd trwyddedadwy ar raddfa fach am ddigwyddiad unigryw.
Gellir defnyddio TEN i awdurdodi digwyddiad y tu allan i delerau trwydded mangre bresennol neu awdurdodi digwyddiad pan nad oes trwydded mangre bresennol. I fod yn gymwys am TEN ni ddylai mwy na 499 o bobl fod yn rhan ar unrhyw adeg. Dylai hefyd fodloni'r pedwar amcan trwyddedu. Gall yr Heddlu a Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd y cyngor atal cynnal y digwyddiad neu addasu'r gorchymyn i fodloni'r amcanion hyn.
Dylech gyflwyno cais am TEN o leiaf 10 niwrnod gwaith cyn dechrau'r digwyddiad. Os ydych yn cyflwyno cais rhwng 9 a 5 niwrnod cyn y digwyddiad, bydd hwn yn cael ei ystyried yn TEN Hwyr.Os byddwn yn derbyn eich cais llai na 5 niwrnod cyn y digwyddiad, ni fydd eich cais yn ddilys ac ni fydd hawl gennych i gynnal y digwyddiad.
Sut mae gwneud cais

Gwneud Cais am Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro
Rhaid cwblhau'r ffurflen gais yn llawn. Bydd angen i chi dalu'r ffi cyflwyno cais pan fyddwch yn cyflwyno'ch ffurflen.
Bydd copi llawn o'r cais hefyd yn cael ei anfon at Brif Swyddog yr Heddlu ac i'r Gwasanaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd yn y cyngor.
Ffïoedd
Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.
Os byddwch yn gwneud cais drwy'r post, dylech wneud pob siec yn daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'i hanfon ynghyd â'r ffurflen.
Os oes gennych unrhyw broblemau â'ch cais neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk. Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir tystysgrif iddo neu sy'n dymuno apelio yn erbyn amod sy'n gysylltiedig â'i dystysgrif apelio i'w Lys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o apelio'r penderfyniad, ond heb fod yn hwyrach na 5 niwrnod gwaith cyn y digwyddiad cynlluniedig.
