Pass Plus Cymru
Gweithredwch er mwyn bod yn yrrwr gwell byth ac elwa o yswiriant is - archebwch le nawr am £20 yn unig!
Gallai Pass Plus Cymru fod yr union beth i chi. Mae'n gwrs gyrru byr, a arweinir gan arbenigwr er mwyn i bobl ifanc ddatblygu technegau ffordd ac ehangu profiad.
Gallwch ddisgwyl gael argymhellion gyrru mewn grŵp o 12 o yrwyr ifanc yn ogystal â 6 awr gydag uwch-hyfforddwr gyrru - am £20 yn unig!
Rhaid i chi:
- Fod rhwng 17 a 25 oed
- Meddu ar drwydded yrru lawn
- Byw yn Abertawe
Dyddiadau'r cwrs - cadwch le nawr
Mae'r dyddiadau isod ar gyfer sesiwn gyntaf y cwrs a byddwn yn anfon y manylion llawn atoch chi gyda'ch cadarnhad archebu.
Dydd Mercher 10 Ebrill 2019
Dydd Mercher 8 Mai 2019
Dydd Mercher 5 Mehefin 2019
Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2019
Dydd Mercher 7 Awst 2019
Dydd Mercher 4 Medi 2019
Dydd Mercher 9 Hydref 2019
Dydd Mercher 6 Tachwedd 2019
Dydd Mercher 4 Rhagfyr 2019
Dydd Mercher 8 Ionawr 2020
Dydd Mercher 5 Chwefror 2020
Dydd Mercher 4 Mawrth 2020
Byddwch yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Mynd ar y draffordd
- Technegau gyrru ac ymwybyddiaeth o beryglon
- Gyrru gyda'r nos
- Ymdopi â threfi a dinasoedd prysur
- Gyrru ar ffyrdd gwledig
- Meddwl ymlaen llaw - fel yr ydych chi nawr
Beth yw'r manteision i chi?
- Sgiliau gyrru gwell
- Mwy o gyfle i gael yswiriant is
- Llai o berygl o gael damwain neu niweidio'ch hun, eich ffrindiau ac eraill
Cefnogir cyrsiau Pass Plus gan Lywodraeth Cymru.
