Taliadau Tai Dewisol (TTD)
Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol (CC) sy'n cynnwys elfen tai tuag at atebolrwydd rhentu, ond rydych dal yn ei chael hi'n anodd talu'ch rhent, efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol drwy gyflwyno cais am Daliad Tai Dewisol (TTD).
Oherwydd telir TTD o gronfa gyfyngedig, fe'u dyrennir fel arfer fel mesur tymor byr i helpu pobl wrth iddynt ymdrechu i ddatrys eu hanawsterau ac mae'r cyngor yn targedu taliadau i'r rhai y mae'r angen mwyaf arnynt.
Gallwch gyflwyno cais am TTD tuag at eich Costau Tai am y rhesymau canlynol:
- Rydych eisoes yn derbyn Budd-dal Tai
- Mae eich Budd-dal Tai'n is na'r rhent llawn, gan dynnu pris unrhyw wasanaethau na all Budd-dal Tai dalu amdanynt, megis taliadau am wres neu drethi dŵr.
- Ceir amgylchiadau arbennig sy'n golygu na allwch dalu'r gwahaniaeth rhwng eich budd-dal a'ch rhent llawn.
- Rydych yn derbyn Credyd Cynhwysol (CC) sy'n cynnwys elfen tai.
Mae costau tai'n golygu atebolrwydd rhentu; fodd bynnag, gellir dehongli costau tai yn fwy eang i gynnwys; rhent ymlaen llaw; blaendaliadau; a chyfandaliadau sy'n gysylltiedig ag angen tai megis costau symud.
Sut i wneud cais am TTD
- Os ydych yn cyflwyno cais am gymorth gyda'ch atebolrwydd rhent
- Lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen a'i phostio neu ddod â hi atom, neu
- Ffoniwch ein Tîm Help a Chyngor ar Les ar 01792 635885 am gyngor wrth ofyn am TTD, neu
- Dewch i'r Ganolfan Ddinesig i siarad â staff Budd-daliadau yn y Ganolfan Gyswllt.
Ffurflen Gais – Taliad Tai Dewisol (PDF, 54KB)Yn agor mewn ffenest newydd
Os ydych yn cyflwyno cais am gymorth gyda rhent ymlaen llaw, blaendal neu gostau symud
Lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen a'i phostio neu ddod â hi atom, neu
Ffoniwch ein Tîm Help a Chyngor ar Les ar 01792 635885 am gyngor wrth ofyn am TTD - Croeso i chi sgwrsio yn Gymraeg, neu
Dewch i'r Ganolfan Ddinesig i siarad â staff Budd-daliadau yn y Ganolfan Gyswllt.
Ffurflen Gais Taliadau Tai Dewisol ar gyfer Treiliau Symud (PDF, 56KB)Yn agor mewn ffenest newydd
Sut bynnag y byddwch yn cyflwyno cais, nodwch gymaint o wybodaeth â phosib i'n helpu i ddeall pam mae eich amgylchiadau'n arbennig.
Pryd gallwn wneud Taliad Tai Dewisol
Dyma enghreifftiau o'r sefyllfaoedd lle gallwn dalu TTD:
- Os oes gennych dreuliau ychwanegol oherwydd amgylchiadau arbennig megis bod rhywun o'ch aelwyd yn yr ysbyty.
- Os ydych yn profi caledi dros dro oherwydd colli swydd neu golli budd-dal wrth ddychwelyd i'r gwaith.
- Os ydych mewn perygl o golli'ch cartref lle'r ydym yn meddwl y gallai TTD atal hyn.
- Os cafodd eich dyraniad Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol ei leihau oherwydd meini prawf maint y sector cymdeithasol (y dreth ystafell wely) ac mae angen cymorth arnoch gyda'r costau symud i eiddo llai.
Pryd na allwn wneud taliad
Nid yw'r taliad ychwanegol hwn ar gael at y dibenion canlynol:
- Cymorth gyda Threth y Cyngor.
- Ar gyfer dŵr, prydau, tanwydd neu unrhyw daliadau gwasanaeth anghymwys arall sydd wedi'u cynnwys yn eich rhent.
- Talu am unrhyw ddiffyg mewn Budd-dal Tai oherwydd adennill unrhyw ordaliadau.
- Talu rhent sy'n amlwg yn ormodol.
- Talu cynnydd yn eich rhent oherwydd ôl-ddyledion rhent sy'n weddill.
- Talu cost cosbau a gostyngiadau penodol mewn budd-daliadau e.e. cosb gwrth-dwyll.
- Os nad yw eich Credyd Cynhwysol yn cynnwys elfen tai.
Ar ôl i chi wneud cais
- Os ydym yn penderfynu ein bod yn gallu gwneud taliad, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych faint gaiff ei dalu ac am faint o amser.
- Os ydym yn penderfynu na allwn wneud taliad, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn dweud wrthych y rhesymau dros ein penderfyniad.
- Os ydych yn anghytuno â'r penderfyniad, mae gennych hawl i ofyn am adolygiad. Rhaid i'r person a wnaeth gais am y TTD (neu ei gynrychiolydd) wneud ei gais yn ysgrifenedig ac o fewn mis calendr o ddyddiad llythyr y penderfyniad.
Telir TTD naill ai yn yr un ffordd â'ch Budd-dal Tai neu os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol, drwy'r dull a ddewisoch yn eich cais.
Pethau i'w cofio
- Ni all TTD eich helpu gyda'ch Treth y Cyngor.
- Cyflwynwch gais cyn gynted â'ch bod yn meddwl bod angen cymorth ychwanegol arnoch.
- Rhowch gymaint o wybodaeth â phosib i'n helpu i ddeall pam mae eich amgylchiadau'n arbennig.
Cwestiynau cyffredin am daliadau tai dewisol
Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am daliadau tai dewisol (TTD).
